If you or the person you are helping is in immediate danger please contact the police dialling 999

Sut mae Riportio Trais neu Drais Domestig Ar-lein?

Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys rydych yn ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol yn debygol o fod yn hwyliog, yn ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth.

Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd adegau pan fyddwch yn dod ar draws cynnwys sy’n peri gofid ar-lein, a chynnwys treisgar hyd yn oed. Gallai hyn gynnwys fideos YouTube treisgar, cynnwys graffig yn portreadu pethau fel torri pennau i ffwrdd a cham-drin anifeiliaid, neu ddiweddariadau sy’n disgrifio trais domestig neu drais yn y gweithle.

Mae’n anorfod y bydd y math hwn o gynnwys yn codi llawer o gwestiynau ym meddyliau’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, fel: Sut alla i stopio gweld hyn ar fy ffrwd newyddion? Ydy hyn yn anghyfreithlon? Alla i riportio hyn i’r heddlu? A sut mae riportio troseddau Rhyngrwyd p’un bynnag?

Os ydych yn chwilio am atebion i’r cwestiynau hyn, peidiwch â chynhyrfu! Mae lleoedd y gallwch droi atynt i gael help a chefnogaeth. Nid yw cynnwys treisgar yn cael ei oddef ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol a gellir ei riportio’n uniongyrchol ac yn ddienw i’r platfformau hyn.

Mae unrhyw fath o drais yn anghyfreithlon a dylid ei riportio i’r heddlu. Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, wedi dioddef trais, gan gynnwys trais domestig, mae gwasanaethau cymorth eraill ar gael.

Cofiwch, os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar 999 i gael help.

Darganfyddwch isod sut i riportio cynnwys treisgar i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml:

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below