Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Telerau Defnyddio – Hysbysiad Cyfreithiol Pwysig

Mae South West Grid for Learning Trust Ltd (y cyfeirir ato fel “SWGfL", "Y Grid" a “Ni”) wedi ymrwymo i ddarparu canllawiau clir ar ddefnyddio ein cynnyrch a’n gwasanaethau.

Mae’r dudalen hon a’r telerau ac amodau defnyddio sydd arni (ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atynt) yn egluro ar ba delerau y gallwch ddefnyddio ein gwefan www.ReportHarmfulContent.Online (RHC) (“ein Gwefan”), naill ai fel gwestai neu fel defnyddiwr cofrestredig. Darllenwch y Telerau Defnyddio hyn yn ofalus cyn dechrau defnyddio’r Wefan. Drwy ddefnyddio ein Gwefan, rydych yn dangos eich bod yn derbyn y Telerau Defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i lynu wrthynt. Os nad ydych yn cytuno â’r Telerau Defnyddio hyn, peidiwch â defnyddio ein Gwefan.

Gwybodaeth Amdanom

Mae gwefan www.ReportHarmfulContent.Online yn cael ei gweithredu gan SWGfL. Rydym wedi’n cofrestru yng Nghymru a Lloegr dan rif cwmni 05589479 ac mae ein swyddfa gofrestredig yn Belvedere House Pynes Hill, Woodwater Park, Exeter, Dyfnaint, EX2 5WS. Ein prif gyfeiriad masnachu yw Belvedere House Pynes Hill, Woodwater Park, Exeter, Dyfnaint, EX2 5WS. Ein rhif TAW yw GB 880 8618 88.

  1. Mynediad i’n Gwefan
    1. Caniateir i chi gael mynediad i’n Gwefan dros dro, a chadwn yr hawl i atal neu newid y gwasanaeth a ddarparwn ar ein Gwefan yn ddirybudd (gweler isod). Ni fyddwn yn atebol os na fydd ein gwefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod, am unrhyw reswm.
    2. Wrth ddefnyddio ein Gwefan, rhaid i chi gydymffurfio â’r darpariaethau a ganlyn neu unrhyw ddarpariaethau eraill a gaiff eu postio o bryd i’w gilydd fel polisi defnydd derbyniol.
      1. Ni ddylech bostio neu drosglwyddo’r mathau isod o ddeunyddiau i’r Wefan nac o’r Wefan:
        1. deunydd sy’n fygythiol, yn ddifenwol, yn aflednais, yn anweddus, yn wrthryfelgar, yn dramgwyddus, yn bornograffig, yn sarhaus, yn dueddol o ysgogi casineb hiliol, yn wahaniaethol, yn beryglus, yn athrodus, yn ymfflamychol, yn gableddus, yn torri cyfrinachedd, yn ymyrryd ar breifatrwydd neu a allai gythruddo neu achosi anhwylustod; neu
        2. deunydd nad ydych wedi cael yr holl drwyddedau a/neu gymeradwyaeth angenrheidiol ar ei gyfer; neu
        3. deunydd sy’n gyfwerth â throsedd neu sy’n annog ymddygiad a fyddai’n cael ei ystyried yn drosedd, a fyddai’n arwain at atebolrwydd sifil, neu a fyddai’n torri cyfraith neu’n ymyrryd â hawliau unrhyw drydydd parti mewn ffordd arall, mewn unrhyw wlad yn y byd; neu
        4. deunydd sy’n dechnolegol niweidiol (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, feirysau cyfrifiadurol, bomiau rhesymeg, trojanau, mwydod, cydrannau niweidiol, data llygredig neu feddalwedd maleisus neu ddata niweidiol arall).
      2. Chi sy’n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol er mwyn i chi gael mynediad i’n gwefan. Chi sy’n gyfrifol hefyd am sicrhau bod pawb sy’n cael mynediad i’n gwefan drwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau hyn, a’u bod yn cydymffurfio â hwy.
  2. Hawliau Eiddo Deallusol
    1. Ni yw perchennog neu drwyddedai’r holl hawliau eiddo deallusol ar ein Gwefan, a’r holl ddeunydd a gyhoeddir arni. Diogelir y gweithiau hynny gan gyfreithiau a chytundebau hawlfraint ledled y byd. Cedwir yr holl gyfryw hawliau.
    2. Gallwch argraffu nifer rhesymol o gopïau, fel sydd eu hangen ar gyfer eich defnydd personol, a gallwch lawrlwytho darnau o unrhyw dudalen(nau) ar ein Gwefan at eich defnydd personol a thynnu sylw eraill yn eich Sefydliad at ddeunydd sydd wedi’i bostio ar ein Gwefan.
    3. Ni ddylech newid copïau, boed yn gopïau papur, digidol, neu mewn unrhyw fformat arall, o unrhyw ddeunyddiau a argraffwyd neu a lawrlwythwyd gennych mewn unrhyw ffordd, ac ni ddylech ddefnyddio unrhyw ddarluniadau, ffotograffau, dilyniannau fideo neu sain na graffigau ar wahân i unrhyw destun sy’n cyd-fynd â hwy.
    4. Rhaid cydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr a nodir) fel awduron y deunydd sydd ar ein Gwefan bob amser.
    5. Ni ddylech ddefnyddio unrhyw ran o’r deunyddiau ar ein Gwefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.
    6. Os byddwch yn argraffu, yn copïo neu’n lawrlwytho unrhyw ran o’n Gwefan mewn ffordd sy’n mynd yn groes i’r Telerau Defnyddio hyn, caiff eich hawl i ddefnyddio ein Gwefan ei diddymu ar unwaith a rhaid i chi, yn unol â’n dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau a wnaed gennych o’r deunyddiau.
  3. Ein Hatebolrwydd
    1. Yn amodol ar y darpariaethau isod ni fydd cyfanswm ein hatebolrwydd i chi fel defnyddiwr ein Gwefan, boed mewn contract, camwedd (gan gynnwys camwedd esgeulustod) neu fel arall yn fwy na £10.00.
    2. Caiff y deunydd a ddangosir ar ein Gwefan (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, RHC) ei ddarparu i’w ddefnyddio am ddim, ac nid oes unrhyw warantau, amodau na gwarantiadau o ran ei gywirdeb. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym ni, aelodau eraill o’n grŵp o gwmnïau a thrydydd partïon sy’n gysylltiedig â ni drwy hyn yn eithrio yn benodol:
      1. Bob amod, gwarantiad ac unrhyw delerau eraill a all fod fel arall ymhlyg mewn statud, cyfraith gwlad neu gyfraith ecwiti.
      2. Unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol sy’n digwydd i unrhyw ddefnyddiwr mewn cysylltiad â’n Gwefan (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, RHC) neu mewn cysylltiad â’r defnydd, yr anallu i ddefnyddio, neu ganlyniadau defnyddio ein Gwefan, unrhyw wefannau y ceir dolenni atynt ac unrhyw ddeunyddiau sydd wedi’u postio arni (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, RHC), gan gynnwys unrhyw atebolrwydd am:
        1. golli incwm neu refeniw;
        2. colli busnes;
        3. colli elw neu gontractau;
        4. colli arbedion disgwyliedig;
        5. colli data;
        6. colli ewyllys da;
        7. gwastraffu amser rheolwyr neu amser swyddfa;
          a pha un a achoswyd gan gamwedd (gan gynnwys esgeulustod), tor-contract neu fel arall, hyd yn oed os yw’n rhagweladwy, a bwrw na fydd yr amod hwn yn atal hawliadau am golled neu ddifrod i’ch eiddo diriaethol nac unrhyw hawliadau eraill am golled ariannol uniongyrchol na chânt eu heithrio gan unrhyw un o’r categorïau a nodir uchod.
      3. Nid yw cyfyngu a/neu eithrio ein hatebolrwydd uchod yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustod ein hunain, nac ein hatebolrwydd am gamliwio twyllodrus neu gamliwio mewn perthynas â mater sylfaenol, nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na’i gyfyngu o dan gyfraith gymwys.
  4. Gwybodaeth Amdanoch Chi a’ch Ymweliadau â’n Gwefan
    1. Rydym yn prosesu gwybodaeth amdanoch yn unol â’n Polisi Preifatrwydd. Drwy ddefnyddio ein Gwefan, rydych yn caniatáu i ni gymryd camau prosesu o’r fath ac yn gwarantu bod yr holl ddata a ddarperir gennych yn gywir.
  5. Lanlwytho Deunydd i’n Gwefan
    1. Pan fyddwch yn defnyddio nodwedd sy’n eich galluogi i lanlwytho deunydd i’n Gwefan, neu gysylltu â defnyddwyr eraill ein Gwefan, rhaid i chi gydymffurfio â’r safonau cynnwys a nodir ym mharagraff 1.2, neu fel y nodir yn wahanol yn ein Telerau Defnyddio neu bolisi defnydd derbyniol a gyhoeddir o bryd i’w gilydd. Rydych yn gwarantu bod unrhyw gyfraniad o’r fath yn cydymffurfio â’r safonau hynny, ac rydych yn ein hindemnio, a byddwch yn parhau i’n hindemnio, o ran unrhyw achos o dorri’r gwarantiad hwnnw. 
    2. Caiff unrhyw ddeunydd a lanlwythwyd gennych i’n Gwefan ei ystyried yn anghyfrinachol ac yn amherchenogol, ac mae gennym yr hawl i ddefnyddio, copïo, dosbarthu a datgelu i drydydd partïon unrhyw gyfryw ddeunydd at unrhyw ddiben. Mae gennym yr hawl hefyd i roi eich enw i unrhyw drydydd parti sy’n honni bod unrhyw ddeunydd a bostiwyd neu a lanlwythwyd gennych i’n Gwefan yn torri ei hawliau eiddo deallusol, neu ei hawl i breifatrwydd.
    3. Ni fyddwn yn gyfrifol, nac yn atebol i unrhyw drydydd parti, am gynnwys na chywirdeb unrhyw ddeunyddiau a bostiwyd gennych chi nac unrhyw un arall sy’n defnyddio ein Gwefan.
    4. Mae gennym yr hawl i dynnu unrhyw ddeunydd neu eitem arall a bostiwyd gennych ar ein Gwefan os na chredwn fod y cyfryw ddeunydd yn cydymffurfio â’r safonau cynnwys a nodir ym mharagraff 1.2, neu fel y nodir yn wahanol yn ein Telerau Defnyddio neu bolisi defnydd derbyniol a gyhoeddir o bryd i’w gilydd.
  6. Feirysau, Hacio a Throseddau Eraill
    1. Ni ddylech gamddefnyddio ein Gwefan drwy gyflwyno’n fwriadol feirysau, trojanau, mwydod, bomiau rhesymeg na deunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod i’n Gwefan, y gweinydd(ion) sy’n storio ein Gwefan nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sydd wedi’u cysylltu â’n Gwefan. Ni ddylech ymosod ar ein Gwefan drwy ymosodiad atal gwasanaeth, ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig neu unrhyw weithred arall a fwriadwyd er mwyn atal mynediad i’n Gwefan.
    2. Drwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod i’r awdurdodau gorfodi perthnasol am unrhyw dorcyfraith o’r fath a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy roi eich manylion iddynt. Os bydd unrhyw dorcyfraith o’r fath, daw eich hawl i ddefnyddio ein Gwefan i ben yn syth.
    3. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig, feirysau neu ddeunydd technolegol niweidiol arall a all heintio eich cyfarpar cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perchenogol arall ar ôl i chi ddefnyddio ein Gwefan neu lawrlwytho unrhyw ddeunydd a bostiwyd arni, neu unrhyw wefan y ceir dolen ati.
  7. Creu dolen i’n Gwefan
    1. Gallwch greu dolen i’n tudalen gartref, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfreithlon heb niweidio ein henw da na chymryd mantais ohono, ond ni ddylech osod dolen mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw gysylltiad, cymeradwyaeth neu gefnogaeth ar ein rhan ni lle nad yw’r rhain ar gael.
    2. Ni ddylech osod dolen ar unrhyw wefan nad yw’n eiddo i chi.
    3. Ni ddylid fframio ein Gwefan ar unrhyw wefan arall, ac ni ddylech greu dolen i unrhyw ran arall o’n Gwefan ar wahân i’r dudalen gartref. Cadwn yr hawl i dynnu’r caniatâd hwn i osod dolenni yn ôl yn ddirybudd. Rhaid i’r wefan yr ydych yn creu dolen iddi gydymffurfio ym mhob ffordd â’r safonau cynnwys a nodir ym mharagraff 1.2 a’n polisi defnydd derbyniol a gyhoeddir o bryd i’w gilydd.
    4. Os hoffech ddefnyddio unrhyw ddeunydd ar ein Gwefan ar wahân i’r hyn a nodir uchod, anfonwch eich cais i enquiries@swgfl.org.uk
  8. Dolenni o’n Gwefan
    1. Lle bo ein Gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill ac adnoddau a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau neu’r adnoddau hyn, ac ni dderbyniwn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac unrhyw golled neu ddifrod a all ddigwydd i chi drwy eu defnyddio.
  9. Awdurdodaeth a chyfreithiau perthnasol
    1. Bydd gan lysoedd Lloegr awdurdodaeth unigryw dros unrhyw hawliad sy’n deillio o ymweliad â’n Gwefan, neu sy’n gysylltiedig ag ymweliad o’r fath.
    2. Caiff y Telerau Defnyddio hyn ac unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n deillio ohonynt neu mewn cysylltiad â hwy neu eu pwnc neu’r ffordd y cawsant eu ffurfio (gan gynnwys anghydfodau neu hawliadau anghytundebol) eu llywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr a’u dehongli yn unol â hi.
  10. Amrywiadau
    1. Gallwn ddiwygio’r Telerau Defnyddio hyn gan gynnwys (yn ddigyfyngiad) y rhai sy’n ymwneud ag RHC unrhyw bryd drwy ddiwygio’r dudalen hon. Disgwylir i chi ddarllen y dudalen hon o bryd i’w gilydd i nodi unrhyw newidiadau a wnawn, gan eu bod yn gyfrwymol arnoch. Gall rhai o’r darpariaethau yn y telerau hyn gael eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn rhannau eraill o’n Gwefan.
  11. Cwcis
    1. Mae ein gwefannau’n defnyddio cwcis i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill ein gwefannau. Mae hyn yn ein helpu i roi profiad da i chi pan fyddwch yn pori drwy’n gwefannau ac mae hefyd yn caniatáu i ni wella ein Gwefan. Mae manylion y cwcis a ddefnyddir gennym ar ein Gwefan a’n polisi yn ymwneud â chwcis i’w gweld yn y Polisi Preifatrwydd.
    2. Gallwch flocio cwcis drwy ddefnyddio’r gosodiad ar eich porwr sy’n caniatáu i chi wrthod rhai cwcis penodol neu bob un ohonynt. Fodd bynnag, os byddwch yn defnyddio gosodiadau eich porwr i flocio pob cwci (gan gynnwys cwcis hanfodol) efallai na fyddwch yn gallu defnyddio unrhyw ran o’n Gwefan neu rai rhannau ohoni. Gallwch ddarganfod sut i flocio cwcis yn y Polisi Preifatrwydd.
  12. Eich Pryderon
    1. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â deunydd sy’n ymddangos ar ein gwefan, cysylltwch ag enquiries@swgfl.org.uk. Diolch am ymweld â’n Gwefan.
  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below