Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Safbwynt YouTube ar noethni a chynnwys rhywiol

Os yw fideo wedi’i fwriadu i fod yn rhywiol bryfoclyd, mae’n llai tebygol o fod yn dderbyniol ar gyfer YouTube.

Beth sy’n cael ei ganiatáu a beth sydd ddim

Nid yw cynnwys sy’n amlwg yn rhywiol, fel pornograffi, yn cael ei ganiatáu. Bydd fideos sydd â chynnwys ffetish yn cael eu tynnu i lawr, neu bydd cyfyngiadau oedran yn cael eu gosod, gan ddibynnu ar ddifrifoldeb y weithred dan sylw. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni chaniateir dangos ffetisiau treisgar, graffig neu fychanol ar YouTube.

Mae’n bosibl y bydd fideo sy’n cynnwys noethni neu gynnwys rhywiol arall yn cael ei ganiatáu os yw wedi’i fwriadu’n bennaf at ddibenion addysgol, dogfennol, gwyddonol neu artistig, a chyn belled nad yw’n afresymol o graffig. Er enghraifft, byddai rhaglen ddogfen ar ganser y fron yn briodol, ond mae’n bosibl na fyddai’n briodol postio clipiau o’r un rhaglen ddogfen allan o’u cyd-destun. Cofiwch y bydd darparu cyd-destun yn y teitl a’r disgrifiad yn ein helpu ni a’ch gwylwyr i benderfynu beth yw prif bwrpas y fideo.

Cynnwys â chyfyngiad oed

Mewn achosion lle nad yw fideos yn croesi’r llinell, ond lle maent yn dal i fod â chynnwys rhywiol, mae’n bosibl y byddwn yn gosod cyfyngiad oed fel mai dim ond gwylwyr dros oedran penodol sy’n gallu gwylio’r cynnwys.

Gellid gosod cyfyngiadau oed ar fideos sy’n cynnwys noethni neu ymddygiad rhywiol wedi’i ddramateiddio pan fydd y cyd-destun yn briodol addysgol, dogfennol, gwyddonol neu artistig. Gellid gosod cyfyngiadau oed hefyd ar fideos sy’n cynnwys unigolion heb lawer o ddillad amdanynt, neu sy’n gwisgo dillad sy’n datgelu llawer o’r corff, os bwriadwyd iddynt fod yn rhywiol bryfoclyd, ond nad ydynt yn dangos cynnwys cignoeth.

Cliciwch yma i ddarganfod sut i riportio cynnwys amhriodol fel noethni a chynnwys rhywiol. Cofiwch y bydd arnoch angen cyfrif Google i allu gwneud hyn

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below