Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Safbwynt YouTube ar gynnwys treisgar neu graffig

Portreadau real o gynnwys graffig neu dreisgar

Mae YouTube yn amlygu ei hun fwyfwy fel llwyfan lle gall newyddiadurwyr-ddinasyddion, dogfenwyr a defnyddwyr eraill gyhoeddi cofnod o’r hyn sy’n digwydd yn eu bywydau bob dydd. Mae’n anorfod y bydd gan rai o’r fideos hyn gynnwys treisgar neu graffig ei natur.

Nid yw’n iawn postio cynnwys treisgar neu waedlyd a fwriadwyd yn bennaf i fod yn ddychrynllyd, yn gynhyrfus neu’n ddi-alw-amdano. Os bydd fideo yn arbennig o graffig neu annymunol, dylid ei gydbwyso â chyd-destun a gwybodaeth ychwanegol. Os ydych yn postio cynnwys graffig mewn cyd-destun newyddion, neu mewn cyd-destun dogfennol, gwyddonol neu artistig, dylech ddarparu digon o wybodaeth i helpu pobl i ddeall beth sy’n digwydd. Mewn rhai achosion, gallai’r cynnwys fod mor dreisgar neu ddychrynllyd fel na fyddai unrhyw gyd-destun yn caniatáu i’r cynnwys hwnnw aros ar ein platfformau. Yn olaf, peidiwch ag annog pobl eraill i gyflawni gweithredoedd penodol o drais. 

Os yw’r trais sy’n cael ei ddangos yn eich fideo yn arbennig o graffig, gwnewch yn siŵr eich bod yn postio cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl yn y teitl a’r metadata i helpu gwylwyr i ddeall beth maen nhw’n ei weld. Gall darparu cyd-destun dogfennol neu addysgol helpu’r gwyliwr, a’n hadolygwyr ni, i ddeall pam y gallent fod yn gweld y cynnwys annymunol.

Er enghraifft, mae’n debyg y byddai fideo gan newyddiadurwr-ddinesydd sy’n cynnwys clip ffilm o brotestwyr yn cael eu curo, wedi’i lanlwytho â gwybodaeth berthnasol (dyddiad, lleoliad, cyd-destun ac ati), yn cael ei ganiatáu. Fodd bynnag, gallai postio’r un clip ffilm heb wybodaeth gyd-destunol neu addysgol gael ei ystyried yn ddi-alw-amdano, a gallai gael ei dynnu oddi ar y safle

Portreadau wedi’u dramateiddio o gynnwys graffig neu dreisgar

Mae rhai pobl yn postio fideos sy’n cynnwys portreadau wedi’u dramateiddio o drais. Yn debyg iawn i ffilmiau a chynnwys ar y teledu, nid yw cynnwys graffig neu annymunol sydd â thrais, gwaed neu gynnwys dychrynllyd yn addas i blant dan oed a gosodir cyfyngiadau oed.

Cliciwch yma i ddarganfod sut i riportio cynnwys amhriodol ynghyd â chynnwys graffig neu dreisgar. Cofiwch y bydd arnoch angen cyfrif Google i wneud adroddiad

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below