Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Safbwynt YouTube ar gynnwys niweidiol neu beryglus

Efallai ei bod yn ymddangos yn annheg i ni wrthod gadael i chi ddangos rhywbeth oherwydd beth y gallai gwylwyr ei wneud mewn ymateb, ond rydym yn gwrthod cynnwys a fwriadwyd er mwyn ysgogi trais neu annog gweithgareddau peryglus neu anghyfreithlon sydd â risg gynhenid o niwed corfforol difrifol neu farwolaeth.

Mae fideos sydd yn ein barn ni’n annog gweithgareddau peryglus neu anghyfreithlon yn cynnwys cyfarwyddiadau gwneud bom, gemau tagu, defnyddio cyffuriau caled neu weithredoedd eraill a allai arwain at anaf difrifol. Gallai fideo sy’n portreadu gweithredoedd peryglus gael ei ganiatáu os yw wedi’i fwriadu’n bennaf at ddibenion addysgol, dogfennol, gwyddonol neu artistig (EDSA), a chyn belled nad yw’n afresymol o graffig. Er enghraifft, byddai darn o newyddion am beryglon gemau tagu’n briodol, ond mae’n bosibl na fyddai’n briodol postio clipiau o’r un rhaglen ddogfen allan o’u cyd-destun.

Mae fideos sy’n ysgogi pobl eraill i gyflawni gweithredoedd treisgar yn cael eu gwahardd yn llwyr ar YouTube. Os bydd eich fideo’n gofyn i bobl eraill gyflawni gweithred dreisgar neu’n bygwth pobl â gweithredoedd difrifol o drais, bydd yn cael ei dynnu oddi ar y safle.

Rydym yn sensitif iawn i unrhyw gynnwys niweidiol neu beryglus sy’n cynnwys plant dan oed. Os yw eich fideo’n dangos plentyn dan oed yn cymryd rhan mewn gweithgaredd niweidiol neu beryglus, peidiwch â’i bostio. Er mwyn amddiffyn plant dan oed, mae’n bosibl y byddwn yn gosod cyfyngiadau oed ar fideos sy’n dangos oedolion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd â risg uchel o anaf neu farwolaeth.

Cliciwch yma i ddarganfod sut i riportio cynnwys amhriodol, sy’n cynnwys deunydd niweidiol neu beryglus. Cofiwch y bydd arnoch angen cyfrif Google i wneud hyn.

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below