Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Safbwynt YouTube ar Ffugio bod yn Rhywun Arall

Gall gweithgareddau fel copïo cynllun sianel defnyddiwr, defnyddio enw defnyddiwr tebyg neu esgus bod yn rhywun arall mewn sylwadau, negeseuon ebost neu fideos gael eu hystyried yn fath o aflonyddu. Mewn achosion lle bydd ein tîm yn penderfynu bod cyfrif wedi’i greu er mwyn ffugio bod yn sianel neu unigolyn arall, bydd y cyfrif yn cael ei ddileu. Gall ffugio bod yn rhywun arall ddigwydd ar YouTube mewn dwy ffordd: ffugio bod yn sianel arall neu ffugio bod yn unigolyn arall.

Ffugio bod yn sianel arall

Mae defnyddiwr yn copïo proffil, cefndir neu destun sianel, ac yn ysgrifennu sylwadau i wneud iddo edrych fel pe bai sianel rhywun arall wedi postio’r sylwadau. Os ydych yn teimlo bod eich sianel chi neu sianel crëwr arall yn cael ei ffugio, ewch i’r offeryn riportio.

Ffugio bod yn unigolyn arall

Mae defnyddiwr yn creu sianel neu fideo gan ddefnyddio enw iawn, llun neu wybodaeth bersonol arall unigolyn arall i dwyllo pobl i feddwl ei fod yn rhywun arall ar YouTube. Os ydych yn teimlo bod rhywun arall yn ffugio bod yn chi gallwch riportio hynny gan ddefnyddio ein ffurflen we.

Beth sydd ddim yn cyfri fel ffugio bod yn rhywun arall

Nid yw ffugio bod yn rhywun arall yn cynnwys sianeli neu fideos sy’n cymryd arnynt eu bod yn cynrychioli busnes. Yn yr achos hwn, efallai y byddech yn hoffi ystyried cyflwyno cwyn gyfreithiol drwy ein ffurflenni riportio cyfreithiol.

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below