Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Safbwynt YouTube ar aflonyddu a seiberfwlio

Mae arnom eisiau i chi ddefnyddio YouTube heb ofni y bydd rhywun yn aflonyddu arnoch yn faleisus. Os bydd aflonyddu’n croesi’r llinell ac yn dod yn ymosodiad maleisus gellir ei riportio, a bydd y cynnwys yn cael ei dynnu i lawr. Os yw defnyddwyr yn gwneud dim byd mwy na bod ychydig yn ddiflas, neu ffraeo am fân bethau, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw eu hanwybyddu.

Gall aflonyddu gynnwys:

  • Fideos, sylwadau a negeseuon annymunol
  • Datgelu gwybodaeth bersonol rhywun, gan gynnwys gwybodaeth sensitif a allai gael ei defnyddio i gael eich manylion, er enghraifft rhif nawdd cymdeithasol, rhif pasbort neu rif cyfrif banc
  • Recordio rhywun yn faleisus heb ei ganiatâd
  • Postio cynnwys yn fwriadol er mwyn bychanu rhywun
  • Gwneud sylwadau/fideos niweidiol a negyddol am rywun arall
  • Rhyweiddio digroeso, sy’n cynnwys aflonyddu rhywiol neu fwlio rhywiol o unrhyw fath
  • Anogaeth i aflonyddu ar ddefnyddwyr neu grewyr eraill

Cliciwch yma i gyflwyno adroddiad. Cofiwch y bydd arnoch angen cyfrif Google os nad oes gennych un yn barod

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below