Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Cynnwys Gwaharddedig Xbox Live

Mae Microsoft yn gwahardd y cynnwys a ganlyn yn Xbox Live

(Sylwer: dim ond rhai enghreifftiau o Gynnwys sy’n cael ei wahardd gan God Ymddygiad Microsoft yw’r rhain. Nid yw’r ffaith fod rhywbeth ddim ar y rhestr yn golygu ei fod yn iawn.)

Cynnwys sy’n ymwneud â gweithgaredd anghyfreithlon. Er enghraifft:

  • Gamblo, lladrata, pornograffi plant, anlladrwydd neu weithgaredd troseddol
  • Yfed dan oed, defnyddio cyffuriau anghyfreithlon neu ymddygiad cymdeithasol anghyfrifol sy’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau (e.e. yfed a gyrru)
  • Terfysgaeth (e.e. cyfarwyddiadau gwneud bom neu arf arall)
  • Gwybodaeth a allai helpu i adnabod lladron (e.e. rhif adnabod a roddwyd gan y llywodraeth)

Cynnwys a allai niweidio neu aflonyddu ar berson, gan gynnwys chi eich hun, neu anifail. Er enghraifft:

  • Geiriau neu ymadroddion anweddus
  • Cynnwys yn ymwneud â hunanladdiad
  • Iaith negyddol (gan gynnwys iaith casineb neu fygwth niwed) wedi’i chyfeirio at bobl sy’n perthyn i grŵp, gan gynnwys grwpiau sy’n seiliedig ar hil, ethnigrwydd, cenedligrwydd, iaith, rhyw, oed, anabledd, statws cyn-filwr, crefydd neu gyfeiriadedd/ mynegiant rhywiol
  • "Sŵn", sef iaith ormodol gyda’r bwriad o ymyrryd neu amharu ar allu person neu grŵp arall i fwynhau gêm neu ap ar Xbox Live
  • Cynnwys sy’n dangos neu’n hybu cam-drin anifeiliaid

Cynnwys sy’n ddadleuol. Er enghraifft:

  • Cynnwys rhywiol, pryfoclyd, pornograffig neu addas i oedolion
  • Cynnwys treisgar
  • Cynnwys crefyddol dadleuol
  • Unrhyw beth sy’n ymwneud â phobl neu sefydliadau sydd ag enw drwg
  • Unrhyw beth sy’n ymwneud â digwyddiadau sensitif, cyfredol neu hanesyddol

Cynnwys sydd heb ei awdurdodi. Er enghraifft:

  • Delweddau a chynnwys arall nad ydych wedi cael caniatâd i’w ddefnyddio
  • Fideos a gafwyd yn anghyfreithlon

Cynnwys sy’n hybu, neu sy’n swnio neu’n edrych fel geiriau, ymadroddion, geiriau mwys, delweddau neu ddelweddu sy’n cyfeirio at unrhyw gynnwys gwaharddedig

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below