Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Trais graffig a chynnwys addas i oedolion

Trais graffig a chynnwys addas i oedolion

Rydym yn ystyried trais graffig fel unrhyw fath o gyfryngau gwaedlyd sy’n gysylltiedig â marwolaeth, anaf difrifol, trais neu weithdrefnau llawfeddygol. Rydym yn ystyried cynnwys addas i oedolion fel unrhyw gyfryngau sy’n bornograffig a/neu a allai fod wedi’i fwriadu i achosi i rywun gael ei gynhyrfu’n rhywiol. Dysgwch fwy am ein polisi cyfryngau.

Mae Twitter yn caniatáu rhai mathau o drais graffig a/neu gynnwys addas i oedolion mewn Trydariadau sydd wedi’u marcio fel rhai sy’n cynnwys cyfryngau sensitif. Fodd bynnag, ni chaniateir i chi ddefnyddio cynnwys o’r fath yn eich proffil na’ch prif ddelweddau. Yn ogystal, weithiau bydd Twitter yn gofyn i chi dynnu trais sy’n eithafol o graffig i lawr er parch i’r bobl sydd wedi marw a’u teuluoedd os byddwn yn derbyn cais gan y teulu neu gynrychiolydd awdurdodedig. 

Rydym yn ystyried trais graffig fel unrhyw fath o gyfryngau gwaedlyd sy’n gysylltiedig â marwolaeth, anaf difrifol, trais neu weithdrefnau llawfeddygol. Mae’r rhain, ymhlith pethau eraill, yn cynnwys portreadau o’r:

  • adeg y mae rhywun yn marw
  • golygfeydd arswydus o droseddau neu ddamweiniau
  • niwed corfforol, arteithio, datgymalu neu anffurfio

Rydym yn ystyried cynnwys addas i oedolion fel unrhyw gyfryngau sy’n bornograffig a/neu a allai fod wedi’i fwriadu er mwyn cynhyrfu rhywun yn rhywiol. Mae’r rhain, ymhlith pethau eraill, yn cynnwys portreadau o:

  • noethni llwyr neu rannol (gan gynnwys lluniau agos o organau rhywiol, penolau neu fronnau)
    • Sylwer y gellir gwneud eithriadau ar gyfer cynnwys artistig a meddygol, neu gynnwys iechyd ac addysgiadol. Nid oes angen marcio cynnwys sy’n dangos menyw yn bwydo ar y fron fel cynnwys sensitif. 
  • efelychu gweithred rywiol
  • cyfathrach neu unrhyw weithred rywiol (gall gynnwys pobl, anifeiliaid ar ffurf pobl, cartwnau neu anime)

Cliciwch yma i ddysgu sut i riportio cyfryngau sensitif fel trais graffig a chynnwys addas i oedolion ar Twitter

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below