Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Trais a bygythiadau

Trais 

Ni chaniateir i chi wneud bygythiadau penodol o drais na dymuno niwed corfforol difrifol, marwolaeth neu glefyd i unigolyn neu grŵp o bobl. Mae hyn yn cynnwys bygwth neu hybu terfysgaeth, ymhlith pethau eraill. Ni chaniateir i chi ychwaith ymgysylltu â sefydliadau sydd — boed drwy eu datganiadau neu eu gweithgaredd eu hunain ar y platfform neu oddi arno — yn defnyddio neu’n hybu trais yn erbyn dinasyddion preifat er mwyn hybu eu hachosion.

Cymryd bygythiadau o ddifri 

Os ydych yn credu eich bod yn wynebu perygl corfforol, cysylltwch â’r awdurdodau gorfodi cyfraith lleol sydd â’r offer i ymdrin â’r mater.

Os byddwch yn penderfynu gweithio gyda’r awdurdodau gorfodi cyfraith, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y canlynol:

  • Cadw allbrintiau neu sgrinluniau fel cofnod o’r negeseuon treisgar neu gamdriniol
  • Bod mor benodol ag sy’n bosibl ynglŷn â pham rydych yn bryderus
  • Darparu unrhyw gyd-destun sydd gennych ynglŷn â phwy allai fod yn gysylltiedig yn eich barn chi, er enghraifft tystiolaeth o ymddygiad camdriniol sydd i’w weld ar wefannau eraill
  • Darparu unrhyw wybodaeth ynglŷn â bygythiadau blaenorol y gallech fod wedi eu derbyn 

Cliciwch yma i riportio ymddygiad camdriniol, er enghraifft bygythiadau treisgar

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below