Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Ffugio bod yn rhywun arall

Ffugio bod yn rhywun arall

Ni chaniateir i chi ffugio bod yn unigolion, grwpiau neu sefydliadau mewn ffordd sy’n camarwain, yn drysu neu’n twyllo pobl eraill, neu a fwriadwyd i wneud hynny. Er ei bod yn iawn i chi gadw cyfrifon parodi, cefnogwyr, sylwadau, neu ffrwd newyddion, ni chaniateir i chi wneud hynny os bwriad y cyfrif yw ymwneud â sbamio neu ymddygiad camdriniol. Darllenwch fwy am ein polisi ffugio bod yn rhywun arall.

Gall cyfrifon Twitter sy’n portreadu person arall mewn ffordd ddryslyd neu dwyllodrus gael eu gwahardd yn barhaol dan bolisi ffugio bod yn rhywun arall Twitter.

Ni fydd cyfrif yn cael ei ddileu:

  • Os yw’r defnyddiwr yn rhannu eich enw ond nad oes ganddo ddim byd arall yn gyffredin, neu
  • Os yw’r proffil yn nodi’n glir nad yw’n gysylltiedig ag unrhyw unigolion sydd ag enw tebyg.

Nid yw cyfrifon sydd ag enw defnyddiwr tebyg neu sy’n edrych yn debyg (e.e. yr un ddelwedd rithffurf) yn torri’r polisi ffugio bod yn rhywun arall yn awtomatig. Mae ffugio bod yn rhywun arall yn golygu bod yn rhaid i’r cyfrif hefyd bortreadu person arall mewn ffordd gamarweiniol neu dwyllodrus.

Cliciwch yma i gyflwyno adroddiad ffugio bod yn rhywun arall ar Twitter

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below