Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Cod ymddygiad Skype

Peidiwch â gwneud dim sy’n anghyfreithlon.

Peidiwch â chymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy’n ecsbloetio, yn niweidio neu’n bygwth niweidio plant.

Peidiwch ag anfon sbam. Mae sbam yn cynnwys negeseuon ebost swmp, postiadau, ceisiadau cyswllt, SMS (negeseuon testun), neu negeseuon gwib digroeso nad oes neb wedi gofyn amdanynt.

Peidiwch ag arddangos yn gyhoeddus, na defnyddio’r Gwasanaethau i rannu Cynnwys neu ddeunydd amhriodol (er enghraifft noethni, bwystfileiddiwch, pornograffi, trais graffig neu weithgaredd troseddol) neu Eich Cynnwys neu'ch deunydd chi nad yw’n cydymffurfio â chyfreithiau neu reoliadau lleol.

Peidiwch â chymryd rhan mewn gweithgaredd sy’n ffug neu’n gamarweiniol (e.e., gofyn am arian drwy dwyll, ffugio bod yn rhywun arall, defnyddio’r Gwasanaethau i gynyddu nifer y troeon y mae rhywbeth wedi cael ei chwarae, neu i effeithio ar safle, sgôr, neu sylwadau) na gweithgaredd sy’n enllibus neu’n ddifenwol.

Peidiwch â cheisio canfod ffordd o amgylch unrhyw gyfyngiadau ar argaeledd y Gwasanaethau neu fynediad atynt.

Peidiwch ag ymwneud â gweithgaredd sy’n niweidiol i chi, y Gwasanaethau neu bobl eraill (e.e., trosglwyddo feirysau, stelcio, cyfathrebu iaith casineb, neu gefnogi trais yn erbyn pobl eraill).

Peidiwch â thresmasu ar hawliau pobl eraill (e.e., rhannu cerddoriaeth â hawlfraint, neu ddeunydd arall sydd â hawlfraint, os nad ydych wedi cael caniatâd i wneud hynny, nac ailwerthu neu ddosbarthu mewn ffordd arall unrhyw fapiau neu ffotograffau Bing).

Peidiwch ag ymwneud â gweithgaredd sy’n tarfu ar breifatrwydd neu hawliau diogelwch data pobl eraill.

Peidiwch â helpu pobl eraill i dorri’r rheolau hyn.

Gorfodaeth.

Os byddwch yn mynd yn groes i’r Telerau hyn, gallwn, fel y gwelwn orau, stopio darparu Gwasanaethau i chi, neu gallwn ofyn i Skype gau eich cyfrif Microsoft neu eich cyfrif Skype. Gallwn hefyd ofyn i Skype atal cyfathrebiad (er enghraifft neges wib) rhag cael ei anfon i’r Gwasanaethau, neu oddi wrth y Gwasanaethau, mewn ymdrech i orfodi’r Telerau hyn, neu gallwn ofyn i Skype dynnu Eich Cynnwys i lawr neu wrthod ei gyhoeddi am unrhyw reswm. Wrth ymchwilio i achosion honedig o beidio â chydymffurfio â’r Telerau hyn, ceidw Microsoft neu Skype yr hawl i adolygu Eich Cynnwys er mwyn datrys y mater, ac rydych chi drwy hyn yn awdurdodi adolygiad o’r fath. Er hyn, ni allwn fonitro’r Gwasanaethau yn eu cyfanrwydd ac nid ydym yn ceisio gwneud hynny.

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below