Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Safbwynt Instagram ar Noethni

Gwyddom fod adegau pan fydd ar bobl eisiau rhannu delweddau noeth sy’n artistig neu’n greadigol eu naws, ond am resymau amrywiol, nid ydym yn caniatáu noethni ar Instagram. Mae hyn yn cynnwys ffotograffau, fideos, a rhai mathau o gynnwys wedi’i greu’n ddigidol sy’n dangos cyfathrach rywiol, organau cenhedlu, a lluniau agos o benolau cwbl noeth. Mae hefyd yn cynnwys rhai ffotograffau o dethi menywod, ond caniateir ffotograffau o greithiau ar ôl llawdriniaeth i godi’r fron, a menywod sy’n bwydo babanod ar y fron. Mae noethni mewn ffotograffau o baentiadau a cherfluniau’n iawn hefyd.

Mae pobl yn hoffi rhannu ffotograffau neu fideos o’u plant. Am resymau diogelwch, mae adegau pan fyddwn yn tynnu delweddau sy’n dangos plant noeth neu rannol noeth i lawr. Hyd yn oed pan fo’r cynnwys hwn yn cael ei rannu ag ewyllys da, gallai gael ei ddefnyddio gan eraill mewn ffyrdd nad yw rhywun wedi’u rhagweld. Gallwch ddysgu rhagor ar ein tudalen Awgrymiadau i Rieni.

Cliciwch yma i riportio noethni ar Instagram

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below