Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Safbwynt Instagram ar hunananafu

Mae’r gymuned Instagram yn gofalu am ei gilydd, ac mae’n aml yn fan lle mae pobl sy’n wynebu problemau anodd, er enghraifft anhwylderau bwyta, torri croen, neu fathau eraill o hunananafu yn dod at ei gilydd i greu ymwybyddiaeth neu i ddod o hyd i gymorth. Rydym yn ceisio gwneud ein rhan drwy ddarparu addysg yn yr ap ac ychwanegu gwybodaeth yn y Ganolfan Help, fel bod pobl yn gallu cael yr help y mae arnynt ei angen.

Mae annog neu gymell pobl i fynd ati i anafu eu hunain yn groes i’r amgylchedd cefnogi hwn, a byddwn yn tynnu cynnwys o’r fath i lawr neu’n analluogi cyfrifon os bydd hynny’n cael ei riportio i ni. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn tynnu cynnwys sy’n datgelu manylion dioddefwyr neu oroeswyr hunananafu i lawr os yw’r cynnwys yn eu targedu ar gyfer ymosodiadau neu i wneud hwyl am eu pennau.

Cliciwch yma i wneud adroddiad

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below