Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Cynnwys cignoeth

Blocio canlyniadau cignoeth 

Gallwch hidlo canlyniadau chwilio cignoeth, er enghraifft pornograffi, ar Google drwy ddefnyddio’r gosodiad Chwilio Diogel (SafeSearch). Nid yw Chwilio Diogel 100% yn gywir, ond mae’n eich helpu i osgoi cynnwys cignoeth.  

Gallwch ddefnyddio Chwilio Diogel fel hidlydd rheolaeth rhieni i helpu i amddiffyn plant rhag canlyniadau chwilio amhriodol ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur.  

Pan fydd Chwilio Diogel ymlaen, mae’n helpu i flocio delweddau, fideos a gwefannau cignoeth o ganlyniadau Google Search. Pan fydd Chwilio Diogel wedi’i ddiffodd, byddwn yn darparu’r canlyniadau mwyaf perthnasol ar gyfer eich chwiliad, ac mae’n bosibl y byddwn yn cynnwys deunydd cignoeth pan fyddwch yn chwilio amdano.

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r hidlydd Chwilio Diogel mor drylwyr ag sy’n bosibl, ond weithiau mae cynnwys cignoeth, fel pornograffi a noethni, yn llwyddo i ddod drwodd. Os yw Chwilio Diogel ymlaen gennych, ond eich bod yn dal i weld safleoedd neu ddelweddau amhriodol, gadewch i ni wybod.

Cliciwch yma i riportio cynnwys tramgwyddus sy’n ymddangos mewn canlyniadau Chwilio Diogel sydd wedi’u hidlo

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below