Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Ymateb Facebook i Fwlio

Mae bwlio yn digwydd mewn llawer o leoedd ac mewn llawer o wahanol ffyrdd. Mae’n amrywio o wneud datganiadau sy’n bychanu cymeriad rhywun, i bostio delweddau amhriodol, a bygwth rhywun. Nid ydym yn goddef bwlio ar Facebook oherwydd mae arnom eisiau i aelodau ein cymuned deimlo’n ddiogel a theimlo eu bod yn cael eu parchu.

Byddwn yn tynnu i lawr unrhyw gynnwys sy’n targedu unigolion preifat yn bwrpasol â’r bwriad o’u bychanu neu godi cywilydd arnynt. Rydym yn cydnabod y gall bwlio fod yn arbennig o niweidiol i blant, ac mae ein polisïau’n darparu mwy o amddiffyniad i blant oherwydd eu bod yn fwy agored i niwed ac yn fwy tueddol o gael eu bwlio ar-lein. Mewn rhai achosion, rydym yn gofyn i’r unigolyn sy’n cael ei dargedu gan y bwlio riportio’r cynnwys i ni cyn ei dynnu i lawr.

Nid yw ein Polisïau Bwlio’n gymwys i ffigurau cyhoeddus oherwydd mae arnom eisiau caniatáu disgwrs, sy’n aml yn cynnwys trafodaeth feirniadol am bobl sydd yn y newyddion neu bobl sydd â chynulleidfa gyhoeddus fawr. Er hyn, rhaid i drafodaeth am ffigurau cyhoeddus gydymffurfio â’n Safonau Cymunedol, a byddwn yn dileu cynnwys am ffigurau cyhoeddus sy’n mynd yn groes i bolisïau eraill, gan gynnwys iaith gasineb neu fygythiadau credadwy.

Mae ein Hyb Atal Bwlio yn adnodd i bobl ifanc yn eu harddegau, rhieni ac addysgwyr sy’n chwilio am gefnogaeth a help i ymdrin â materion sy’n gysylltiedig â bwlio a mathau eraill o wrthdaro. Mae’n cynnig canllawiau cam wrth gam, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i ddechrau sgyrsiau pwysig i bobl sy’n cael eu bwlio, rhieni sydd â phlentyn sydd wedi bod yn cael ei fwlio, neu sydd wedi cael ei gyhuddo o fwlio, ac addysgwyr sydd â myfyrwyr sydd wedi bod yn ymwneud â bwlio.

Cliciwch yma i riportio bwlio ac aflonyddu ar Facebook

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below