Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Sut mae Facebook yn gweithio i helpu i atal hunan-niweidio a hunanladdiad.

Mewn ymdrech i hyrwyddo amgylchedd diogel ar Facebook, rydyn ni’n tynnu cynnwys sy’n annog hunanladdiad neu hunananafu, gan gynnwys disgrifiadau amser real a allai arwain eraill i ymddwyn mewn modd tebyg. Mae hunananafu yn cael ei ddiffinio fel achosi anafiadau bwriadol ac uniongyrchol i’r corff, gan gynnwys hunananffurfio ac anhwylderau bwyta. Rydyn ni eisiau i Facebook fod yn fan lle gall pobl rannu eu profiadau, codi ymwybyddiaeth o’r materion hyn a chefnogi ei gilydd drwy brofiadau anodd, ac felly rydyn ni’n caniatáu i bobl drafod hunanladdiad a hunananafu. Rydyn ni’n annog pobl i gynnig ac i geisio cefnogaeth gan ei gilydd mewn perthynas â’r pynciau anodd hyn.

Rydyn ni’n gweithio gyda sefydliadau ar draws y byd i ddarparu cymorth i bobl sydd mewn trallod. Rydyn ni hefyd yn siarad ag arbenigwyr ym maes hunanladdiadau a hunananafu fel sail i’n polisïau a’n trefn orfodi. Er enghraifft, rydyn ni wedi cael cyngor gan arbenigwyr na ddylen ni dynnu fideos byw o hunan-niweidio tra mae yna gyfle i anwyliaid yr unigolion a’r awdurdodau ddarparu help neu adnoddau.

Rydyn ni’n tynnu unrhyw gynnwys sy’n enwi dioddefwyr neu oroeswyr hunananafu neu hunanladdiad ac yn eu targedu’n negyddol, boed hynny o ddifrif, mewn hiwmor neu’n rhethregol. Gall pobl, fodd bynnag, rannu gwybodaeth am hunananafu a hunanladdiad i dynnu sylw at y mater ac i ganiatáu trafod, ar yr amod nad ydyn nhw’n hyrwyddo nac yn annog hunananafu neu hunanladdiad.

Cliciwch yma i ganfod sut mae riportio hunananafu a hunanladdiad ar Facebook.

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below