Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Safbwynt Facebook ar noethni oedolion a gweithgaredd rhywiol

Rydym yn cyfyngu ar arddangos noethni neu weithgaredd rhywiol oherwydd ei bod yn bosibl bod rhai pobl yn ein cymuned yn sensitif i’r math hwn o gynnwys. Yn ogystal, oni nodir yn wahanol byddwn yn tynnu delweddau rhywiol i lawr er mwyn sicrhau nad oes modd rhannu cynnwys heb gydsyniad neu gynnwys dan oed. Mae cyfyngiadau ar arddangos gweithgaredd rhywiol hefyd yn gymwys i gynnwys wedi’i greu’n ddigidol, oni bai ei fod yn cael ei bostio at ddibenion addysgol, doniol neu ddychanol.

Mae ein Polisïau Noethni wedi mynd yn fwy ymatebol dros gyfnod. Deallwn y gellir rhannu noethni am resymau amrywiol, gan gynnwys fel math o brotest, i godi ymwybyddiaeth o achos neu am resymau addysgol neu feddygol. Lle bo bwriad o’r fath yn glir, rydym yn caniatáu’r cynnwys. Er enghraifft, er ein bod yn cyfyngu ar rai delweddau o fronnau merched sy’n cynnwys y deth, rydym yn caniatáu delweddau eraill, gan gynnwys y rhai sy’n cyfleu gweithredoedd protest, menywod sy’n bwydo babanod ar y fron a lluniau o greithiau ar ôl llawdriniaeth i godi’r fron. Rydym hefyd yn caniatáu ffotograffau o beintiadau, cerfluniau a gwaith celf arall sy’n cyfleu ffigurau noeth.

Cliciwch yma i ddarganfod sut i riportio noethni ar Facebook

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below