Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Trais a chynnwys di-chwaeth

Trais

Nid yw’n iawn i bostio cynnwys treisgar neu waedlyd a fwriadwyd yn bennaf er mwyn bod yn ddychrynllyd, yn gynhyrfus neu’n ddi-alw-amdano. Os ydych yn postio cynnwys graffig mewn cyd-destun newyddion, neu mewn cyd-destun dogfennol, gwyddonol neu artistig, dylech ddarparu digon o wybodaeth i helpu pobl i ddeall beth sy’n digwydd. Mewn rhai achosion, gall cynnwys fod mor dreisgar neu ddychrynllyd fel na fyddai unrhyw gyd-destun yn caniatáu i’r cynnwys hwnnw aros ar ein platfformau. Yn olaf, peidiwch ag annog pobl eraill i gyflawni gweithredoedd penodol o drais.

Cynnwys Di-chwaeth

Peidiwch â phostio cynnwys dim ond er mwyn bod yn ddychrynllyd neu’n graffig. Er enghraifft, byddai casgliadau o ddelweddau agos o anafiadau saethu neu olygfeydd o ddamweiniau heb gyd-destun ychwanegol neu eglurhad yn mynd yn groes i’r polisi hwn.

Cliciwch yma i riportio trais neu gynnwys di-chwaeth ar Blogger

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below