Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Cynnwys addas i oedolion

Cynnwys Addas i Oedolion

Rydym yn caniatáu cynnwys addas i oedolion ar Blogger, gan gynnwys delweddau neu fideos sy’n cynnwys noethni neu weithgaredd rhywiol. Os yw eich blog yn cynnwys deunydd addas i oedolion, dylech ei farcio fel 'oedolion' yn eich gosodiadau Blogger. Mae’n bosibl y byddwn ninnau hefyd yn marcio blogiau sydd â chynnwys addas i oedolion er nad yw’r perchnogion wedi gwneud hynny. Bydd pob blog sydd wedi’i farcio fel blog i 'oedolion' yn cael ei osod y tu ôl i hysbyseb rhybudd 'cynnwys addas i oedolion'. Os oes gan eich blog hysbyseb rhybudd, peidiwch â cheisio trechu'r hysbyseb na’i hanalluogi – mae yno i amddiffyn pawb.

Peidiwch â defnyddio Blogger fel ffordd o wneud arian ar gynnwys addas i oedolion. Er enghraifft, peidiwch â chreu blogiau sy’n cynnwys hysbysebion neu ddolenni ar gyfer safleoedd pornograffi masnachol.

Nid ydym yn caniatáu cynnwys rhywiol anghyfreithlon, gan gynnwys delweddau, fideo neu gynnwys testun sy’n cyfleu neu’n annog trais rhywiol, llosgach, bwystfileiddiwch neu gorffgarwch.

Cliciwch yma i riportio cynnwys addas i oedolion ar Blogger

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below