Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Pryd ddylech chi fynd at yr Heddlu?

  1. Hafan
  2. Pryd ddylech chi fynd at yr Heddlu?

Ystyriwch y cwestiynau hyn

Efallai y byddai’n help pe baech chi’n ystyried eich ymateb i’r cwestiynau hyn wrth i chi feddwl am beth sydd wedi digwydd/sydd yn digwydd ar-lein.

  • Oes rhywun mewn perygl y funud hon?
  • Oes bygythiad wedi’i wneud i fywyd rhywun?
  • Ydy diogelwch rhywun wedi cael ei beryglu?
  • Oes rhywun yn cael ei orfodi i gymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol ar-lein?

Os ydych chi wedi ateb oes/ydy i unrhyw un o’r cwestiynau uchod byddem ni’n argymell eich bod yn cysylltu â’r heddlu fel argyfwng. Y peth gorau bob amser yw cysylltu â’r heddlu drwy ddeialu 999 os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei helpu mewn perygl y funud honno.

Gallwch chi riportio sefyllfaoedd eraill nad ydyn nhw’n argyfwng (h.y. y rhai lle nad oes angen ymateb gan yr heddlu ar unwaith) drwy ddeialu 101.

Pryd mae cynnwys niweidiol yn mynd yn gynnwys troseddol?

Nid yw wastad yn hawdd penderfynu pryd mae cynnwys niweidiol yn mynd yn droseddol ei natur. Mae deddfau’r DU ynglŷn â diogelwch ar-lein yn dyddio’n ôl cyn belled â’r 1960au ac nid oes wastad set glir o feini prawf i’w bodloni wrth benderfynu a yw cynnwys yn droseddol ai peidio.

Yn ogystal â hyn, mae dehongli ymddygiad niweidiol ar-lein yn rhywbeth goddrychol; gallai rhywbeth fod yn niweidiol i un person ond efallai na fyddai’n cael ei ystyried yn broblem gan rywun arall. Mae’r ffaith hon ynddi ei hun yn ei gwneud hi’n fwy anodd deall pryd yn union mae ymddygiad niweidiol yn croesi’r trothwy i fod yn ymddygiad troseddol.

Nid yw’r wyth math o gynnwys niweidiol rydyn ni’n derbyn adroddiadau amdanyn nhw wastad yn droseddau penodol yng nghyfraith y DU. Fodd bynnag, mae yna ddeddfau troseddol sy’n gallu dod i rym mewn achosion o aflonyddu neu ymddygiad bygythiol. Er enghraifft, pe baech yn cael negeseuon bygythiol, anllad neu fynych a’ch bod yn ofni am eich diogelwch, mae hyn yn erbyn y gyfraith a dylech chi gysylltu â’r heddlu. Dylid ystyried y cyd-destun a dylai’r heddlu benderfynu ar eu hymateb ar sail yr achos unigol.

Deddfau am ymddygiad ar-lein

Cafodd llawer o ddeddfau’r DU eu creu cyn i gyfathrebu ar-lein ddod yn boblogaidd. Oherwydd hyn mae’n gallu bod yn anodd penderfynu beth sy’n cael ei gwmpasu gan y ddeddfwriaeth a beth sydd ddim. Cewch wybodaeth am ddeddfau’r Deyrnas Unedig sy’n berthnasol i ymddygiad troseddol ar-lein drwy glicio ar y botymau isod. Gallai hyn fod yn help i chi benderfynu a ddylech gysylltu â’r heddlu neu beidio:

  • Deddf Cyfathrebiadau 2003

    Mae’r Ddeddf hon yn cwmpasu pob ffurf a math o gyfathrebu cyhoeddus. O ran sylwadau ar-lein, mae’n cwmpasu anfon cyfathrebiadau eithriadol o sarhaus, anllad, bygythiol neu anweddus ac unrhyw gyfathrebu sy’n achosi pryder diangen neu sy’n cynnwys camgyhuddiad.

  • Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997

    Mae’r Ddeddf hon yn ymdrin ag unrhyw fath o aflonyddu sydd wedi digwydd ‘dro ar ôl tro’; yn yr achos hwn, mae ‘dro ar ôl tro’ yn golygu fwy nag unwaith.

  • Adran 2A a 4A o Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997

    Mae’r adrannau hyn, a ychwanegwyd yn 2012, yn gwahardd ymddygiad sy’n gyfystyr â stelcio (lle mae unigolyn wedi gwirioni ar rywun arall a/ neu lle mae gan unigolyn obsesiwn â rhywun) a stelcio sy’n achosi ofn trais neu ddychryn neu ofid difrifol. Mae’r ddau fath yn gallu digwydd ar-lein.

  • Deddf Diogelu rhag Stelcio 2019

    Deddf sy’n caniatáu i brif swyddogion heddlu wneud cais am orchymyn diogelwch rhag stelcian i ddiogelu pobl rhag y risg sy’n gysylltiedig â stelcian.

  • Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988

    Mae’r Ddeddf hon yn ymwneud ag anfon llythyrau, cyfathrebiadau electronig neu unrhyw fath arall o neges dramgwyddus neu fygythiol iawn â’r bwriad o achosi niwed, gofid neu bryder.

  • Deddf Cydraddoldeb 2010

    Mae’r Ddeddf hon yn nodi ei bod yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail nodweddion gwarchodedig, sef oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil (gan gynnwys lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol), crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth.

  • Troseddau Casineb ac Iaith Casineb

    Os byddwch yn cyflawni trosedd yn erbyn rhywun oherwydd nodwedd warchodedig (h.y. oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth) bydd hynny’n cael ei ystyried yn drosedd gasineb. Diffinnir iaith casineb fel geiriau cas a bygythiadau sydd wedi’u cyfeirio at berson neu grŵp o bobl oherwydd un neu ragor o nodweddion gwarchodedig. Dylid riportio troseddau casineb/ iaith casineb i True Vision – www.report-it.org.uk  

  • Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990

    Mae deddfwriaeth yn y ddeddf hon yn ei gwneud hi’n drosedd i ffugio bod yn rhywun arall neu i ddwyn hunaniaeth rhywun arall ar-lein. Yn dechnegol, mae hyn yn golygu bod cymryd arnoch eich bod yn rhywun arall ar-lein yn erbyn y gyfraith.

  • Deddf Amddiffyn Plant 1978 a Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988

    Mae deddfwriaeth yn y deddfau hyn yn nodi bod creu delweddau anweddus (lluniau noeth) o blant dan 18 oed, bod â delweddau o’r fath yn eich meddiant, ynghyd â’u storio a/ neu eu rhannu yn anghyfreithlon.

  • Adran 103 o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017

    Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i blatfformau ar-lein (lle gall rhyngweithio ddigwydd) ar draws y DU ddilyn cod ymarfer sy’n nodi’r camau y mae’n rhaid iddynt eu cymryd er mwyn amddiffyn unigolion rhag bwlio, bygythiadau ac ymddygiad sy’n ynysu pobl ar-lein.

  • Rhan 67 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015

    Mae hon yn ei gwneud yn drosedd ymgymryd â chyfathrebu rhywiol â phlentyn (o dan 16). Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu sy’n ymwneud â gweithgarwch rhywiol a chyfathrebu i’r diben o gael boddhad rhywiol (er enghraifft paratoi i bwrpas cam-drin rhywiol). Mae’n cau bwlch blaenorol yn y gyfraith a oedd yn golygu nad oedd modd ystyried cyfathrebu yn ‘baratoi’ nes bod trefniant i gwrdd wedi cael ei wneud.

  • Deddf Troseddau Rhywiol 2003

    Mae’r ddeddf hon yn nodi’r brif ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â cham-drin plant yng Nghymru a Lloegr ac yn cynnwys troseddau fel gwneud i blentyn gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol ym mhresenoldeb plentyn ac achosi i blentyn wylio gweithred rywiol. Oed cydsynio (yr oed cyfreithlon pan mae’n iawn i bobl gael rhyw) yn y DU yw 16 oed. Mae’r gyfraith yn bodoli er mwyn amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin a sicrhau nad yw pobl yn camfanteisio ar blant. Nid yw wedi’i bwriadu er mwyn erlyn plant dan 16 oed sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol lle mae’r ddau bartner yn cydsynio. Mae’r ddeddf yn dweud na all neb sydd dan 13 oed byth roi cydsyniad yn gyfreithlon.

  • Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015

    Mae caethwasiaeth fodern yn fath o droseddu cyfundrefnol lle mae unigolion, gan gynnwys plant a phobl ifanc, yn cael eu trin fel nwyddau ac yn cael eu hecsbloetio er budd troseddol. Mae technolegau ar-lein yn hwyluso ecsbloetio mwy o ddioddefwyr, a hysbysebu eu gwasanaethau ar draws ffiniau daearyddol. Mae’r ddeddf yn amlinellu troseddau masnachu pobl, caethwasiaeth, gwasanaethfraint, llafur dan orfod neu lafur gorfodol.

  • Adran 67 a 67A (Deddf Voyeuriaeth 2019) o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003

    Mae’r adrannau hyn yn cyfeirio at yr arfer o gael pleser rhywiol o wylio eraill tra maen nhw’n noeth neu’n ymgymryd â gweithgarwch rhywiol a/neu osod cyfarpar fel camera neu ffôn symudol o dan ddillad person i gymryd ffotograff voyeuraidd heb ei ganiatâd.

  • Adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd 2015

    Mae’r adran hon yn cyfeirio at y drosedd o Gamddefnyddio Delweddau Personol (a elwir ar lafar yn Bornograffi Dial). Mae hon yn gyfraith sy’n ymwneud â delweddau o oedolion (hynny yw, dros 18 oed), ac mae’n nodi ei bod yn anghyfreithlon i wneud delweddau sy’n amlwg yn rhywiol o rywun arall yn gyhoeddus neu eu rhannu, heb ganiatâd y person hwnnw, gyda’r bwriad o achosi gofid.

  • Deddf Dwyn 1968

    Mae deddfwriaeth yn y ddeddf hon yn ei gwneud hi’n drosedd i flacmelio neu orfodi rhywun i roi arian (e.e. gorfodi rhywun i dalu arian er mwyn atal rhannu delweddau personol)