Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd – Hysbysiad Cyfreithiol Pwysig

Mae South West Grid for Learning Trust Ltd (y cyfeirir ato fel “SWGfL", "Y Grid" a “Ni”) wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.

Mae’r Polisi hwn (ynghyd â’n Telerau Defnyddio ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt ynddo) yn nodi ar ba sail y byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol y byddwn yn eu casglu gennych, neu y byddwch yn eu darparu i ni. Darllenwch y canlynol yn ofalus er mwyn deall ein barn a’n harferion mewn cysylltiad â’ch data personol a sut y byddwn yn ymdrin â hwy.

Drwy ddefnyddio ein Gwefan, rydych yn dangos eich bod yn derbyn darpariaethau’r Polisi Preifatrwydd hwn a’r Telerau Defnyddio a’ch bod yn cytuno i lynu atynt. Os nad ydych yn cytuno, peidiwch â defnyddio ein Gwefan.

At ddibenion Deddf Diogelu Data 1998 (y “Ddeddf”), rheolwr y data yw South West Grid For Learning Trust Ltd o Belvedere House Pynes Hill, Woodwater Park, Exeter, Dyfnaint, y Deyrnas Unedig, EX2 5WS.

Gwybodaeth Amdanom

Mae gwefan reportharmfulcontent.online yn cael ei gweithredu gan SWGfL. Rydym wedi’n cofrestru yng Nghymru a Lloegr dan rif cwmni 05589479 ac mae ein swyddfa gofrestredig yn Belvedere House Pynes Hill, Woodwater Park, Exeter, Dyfnaint, EX2 5WS. Ein prif gyfeiriad masnachu yw Belvedere House Pynes Hill, Woodwater Park, Exeter, Dyfnaint, EX2 5WS. Ein rhif TAW yw GB 880 8618 88.

  1. Gwybodaeth y mae’n Bosibl y Byddwn yn ei Chasglu Gennych

    1. Mae’n bosibl y byddwn yn casglu ac yn prosesu’r data a ganlyn amdanoch chi a’ch sefydliad:
      1. Gwybodaeth y byddwch yn ei rhoi drwy lenwi ffurflenni ar ein gwefan(nau):
        1. www.swgfl.org.uk; a
        2. reportharmfulcontent.online; a
        3. www.360safe.org.uk; a
        4. www.RethinkCloud.org.uk
          (“ein gwefannau”).
    2. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a roddir ar adeg cofrestru i ddefnyddio gwefannau fel reportharmfulcontent.online, prynu neu danysgrifio i wasanaethau a hysbysebir drwy ein gwefannau, postio deunydd neu ofyn am ragor o wasanaethau. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth pan fyddwn yn rhoi gwybod am broblem gydag unrhyw un o’n gwefannau.
    3. Os byddwch yn cysylltu â ni, mae’n bosibl y byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth honno.
    4. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn gofyn i chi gwblhau arolygon y byddwn yn eu defnyddio at ddibenion ymchwil, er nad oes rhaid i chi ymateb iddynt.
    5. Manylion eich ymweliadau â’n gwefannau, gan gynnwys pryniannau, data traffig, data lleoliad, blogiau a data cyfathrebu eraill, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny, pa un a oes eu hangen at eich dibenion bilio chi eich hun neu fel arall a’r adnoddau y byddwch yn eu defnyddio.
  2. Ble Rydym yn Storio Eich Data Personol

    1. Caiff pob gwybodaeth a roddir i ni ei storio ar ein gweinyddion diogel neu ar weinyddion diogel a ddarperir gan ddarparwyr ein gwasanaeth.
    2. Caiff yr holl ddata eu storio yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu â darparwyr gwasanaeth (prosesyddion data) sy’n cydymffurfio â Fframwaith Tarian Preifatrwydd yr UE-UDA fel yr amlinellwyd gan Adran Fasnach yr UDA mewn cysylltiad â chasglu, defnyddio a chadw data personol gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae gwybodaeth ynglŷn â Fframwaith Tarian Preifatrwydd yr UE-UDA i’w gweld yn https://www.privacyshield.gov/. Os yw’n bosibl, mae ein prosesyddion data hefyd yn cydymffurfio â Sêl Breifatrwydd TRUSTe sy’n dangos bod eu polisi a’u harferion preifatrwydd wedi cael eu hadolygu gan TRUSTe er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion rhaglen TRUSTe, gan gynnwys tryloywder, atebolrwydd a dewis mewn cysylltiad â chasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Cenhadaeth TRUSTe, fel trydydd parti annibynnol, yw cyflymu ymddiriedaeth ar-lein ymhlith defnyddwyr a sefydliadau yn fyd-eang drwy ei nod ymddiriedaeth preifatrwydd blaenllaw a datrysiadau ymddiriedaeth arloesol.
    3. Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch data a drosglwyddir i’n gwefannau; ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw ddata a drosglwyddir. Ar ôl i ni dderbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch llym i geisio atal mynediad heb ei awdurdodi.
  3. Cwcis

    1. Mae ein gwefannau yn defnyddio cwcis i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill ein gwefannau. Mae hyn yn ein helpu i roi profiad da i chi pan fyddwch yn pori drwy’n gwefannau ac mae hefyd yn caniatáu i ni wella ein gwefannau.
    2. Ffeil fach o lythrennau a rhifau yw cwcis. Rydym yn storio’r ffeil ar eich porwr neu ar ddisg galed eich cyfrifiadur os ydych yn cytuno. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth a drosglwyddir i ddisg galed eich cyfrifiadur.
    3. Cwcis "dadansoddol" yw’r cwcis a ddefnyddir gennym. Maent yn caniatáu i ni adnabod a chyfrif nifer yr ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyr yn symud o amgylch ein gwefannau pan maent yn eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i wella’r ffordd y mae ein gwefannau yn gweithio, er enghraifft, drwy sicrhau bod defnyddwyr yn dod o hyd i’r hyn y maent yn chwilio amdano yn rhwydd.
    4. Gallwch flocio cwcis drwy ddefnyddio’r gosodiad ar eich porwr sy’n caniatáu i chi wrthod gosod pob cwci neu rai cwcis. Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio gosodiadau eich porwr i flocio pob cwci (gan gynnwys cwcis hanfodol) mae’n bosibl na fyddwch yn gallu cael mynediad i unrhyw un o’n gwefannau neu i rannau ohonynt.
    5. Gallwch ddod o hyd i ragor ynglŷn â sut i wneud hyn yma:
      www.aboutcookies.org/Default.aspx?page=1
    6. Gallwch ddod o hyd i ychwanegyn Porwr i optio allan o Google Analytics yma:  https://tools.google.com/dlpage/gaoptout
  4. Cynigion Hyrwyddo

    1. Weithiau byddwn yn anfon cynigion at grwpiau dethol o ddefnyddwyr ar ran busnesau eraill. Pan fyddwn yn gwneud hyn, ni fyddwn yn rhoi eich enw a’ch cyfeiriad i’r busnes hwnnw. Os nad ydych yn dymuno derbyn cynigion o’r fath, gallwch ddatdanysgrifio drwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn yr ebost a anfonasom atoch.
  5. Darparwyr Gwasanaeth Trydydd Parti

    1. Weithiau byddwn yn defnyddio cwmnïau ac unigolion eraill i gyflawni swyddogaethau ar ein rhan, er enghraifft, darparu sesiynau hyfforddi, anfon llythyrau a negeseuon ebost, tynnu gwybodaeth ailadroddus o restrau cwsmeriaid, dadansoddi data, darparu cymorth marchnata, darparu canlyniadau chwilio a dolenni, prosesu taliadau cardiau credyd a darparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Maent yn cael mynediad at wybodaeth am gyfrifon a’r ychydig wybodaeth bersonol a gedwir gennym sydd ei hangen er mwyn cyflawni eu swyddogaethau, ond ni chânt ddefnyddio’r wybodaeth at ddibenion eraill. Yn ychwanegol at hyn, rhaid iddynt brosesu’r wybodaeth bersonol yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn ac fel y caniateir gan Ddeddf Diogelu Data y DU.
  6. Eich Hawliau

    1. Mae gennych hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol at ddibenion marchnata. Fel arfer byddwn yn eich hysbysu (cyn casglu eich data) os ydym yn bwriadu defnyddio eich data at ddibenion o’r fath neu os ydym yn bwriadu datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti at ddibenion o’r fath. Gallwch ddefnyddio eich hawl i atal prosesu o’r fath drwy roi tic yn rhai o’r blychau ar y ffurflenni rydym yn eu defnyddio i gasglu eich data. Gallwch hefyd ymarfer yr hawl unrhyw bryd i gysylltu â ni drwy enquiries@swgfl.org.uk.
    2. O bryd i’w gilydd, gall ein gwefannau gynnwys dolenni sy’n arwain i wefannau trydydd partïon, neu ddolenni o’r gwefannau hynny. Os byddwch yn dilyn dolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, cofiwch fod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn. Darllenwch y polisïau hyn cyn cyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn.
  7. Mynediad at Wybodaeth

    1. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl i chi weld gwybodaeth a gedwir amdanoch. Gallwch ddefnyddio eich hawl mynediad yn unol â’r Ddeddf. Mae’n bosibl y codir ffi o £10.00 am unrhyw gais mynediad, er mwyn digolledu’r gost o ddarparu manylion i chi am yr wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch.
  8. Newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd

    1. Bydd unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon, a lle bo’n briodol byddwn yn eich hysbysu drwy ebost.
  9. Cyfeiriadau IP

    1. Mae’n bosibl y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, gan gynnwys, os yw ar gael, eich cyfeiriad IP, eich system weithredu a’ch math o borwr, at ddibenion gweinyddu’r system ac er mwyn adolygu gwybodaeth gyfanredol. Data ystadegol am weithrediadau a phatrymau pori ein defnyddwyr yw’r wybodaeth hon, ac nid oes modd adnabod unigolion ohoni.
  10. Cysylltu

    1. Rydym yn croesawu cwestiynau, sylwadau a cheisiadau ynglŷn â’r Polisi Preifatrwydd hwn a dylid eu cyfeirio at enquiries@swgfl.org.uk
  11. Cyfathrebiadau Ebost

    1. Er mwyn ein helpu i wneud negeseuon ebost yn fwy defnyddiol a diddorol, yn aml iawn byddwn yn derbyn cadarnhad pan fyddwch yn agor ebost gennym os yw eich cyfrifiadur yn gallu gwneud hynny. Os nad oes arnoch eisiau derbyn negeseuon ebost neu lythyrau gennym, anfonwch ebost at enquiries@swgfl.org.uk ac fe dynnwn eich enw oddi ar ein rhestrau.
  12. Defnydd a Wneir o’r Wybodaeth

    1. Rydym yn defnyddio gwybodaeth a gedwir amdanoch yn y ffyrdd a ganlyn:
      1. er mwyn sicrhau bod cynnwys o’n gwefan yn cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi ac i’ch cyfrifiadur;
      2. er mwyn darparu gwybodaeth, cynnyrch neu wasanaethau y byddwch yn gwneud cais i ni amdanynt neu rydym yn teimlo y gallent fod o ddiddordeb i chi, os ydych wedi cydsynio y gallwn gysylltu â chi at ddibenion o’r fath;
      3. er mwyn cyflawni rhwymedigaethau sy’n deillio o unrhyw gontractau sydd wedi’u gwneud rhyngoch chi a ni;
      4. er mwyn galluogi defnydd o’r Cwmpawd Ar-lein ac offer hunanasesu diogel 360 gradd;
      5. er mwyn caniatáu i chi gymryd rhan yn nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaeth, pan fyddwch yn dewis gwneud hynny; a
      6. er mwyn eich hysbysu ynglŷn â newidiadau i’n gwasanaeth.
    2. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio eich data, neu’n caniatáu i drydydd partïon dethol ddefnyddio eich data, i ddarparu gwybodaeth i chi am nwyddau a gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi, ac mae’n bosibl y byddwn ni neu nhw yn cysylltu â chi ynglŷn â’r rhain drwy ebost, drwy’r post neu dros y ffôn.
    3. Os ydych eisoes yn un o’n defnyddwyr, byddwn yn cysylltu â chi drwy ddulliau electronig (ebost neu SMS) dim ond er mwyn rhoi gwybodaeth am nwyddau a gwasanaethau tebyg i’r nwyddau rydych wedi’u prynu yn flaenorol neu’r gwasanaeth sydd wedi’i ddarparu i chi’n flaenorol.
    4. Os ydych yn ddefnyddiwr newydd, ac os ydym yn caniatáu i drydydd partïon dethol ddefnyddio eich data, byddwn ni (neu nhw) yn cysylltu â chi drwy ddulliau electronig dim ond os ydych wedi cydsynio.
    5. Os nad ydych yn dymuno i ni ddefnyddio eich data fel hyn, neu anfon eich manylion ymlaen at drydydd partïon at ddibenion marchnata, ticiwch y blwch perthnasol ar y ffurflen rydym yn ei defnyddio i gasglu eich data (e.e. y ffurflen archebu neu’r ffurflen gofrestru).
  13. Datgelu eich Gwybodaeth

    1. Mae South West Grid for Learning Trust Ltd yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant. Er nad oes gennym is-gwmnïau ar hyn o bryd mae’n bosibl y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw aelod o’n grŵp, sy’n golygu ein his-gwmnïau, ein cwmni daliannol terfynol a’i is-gwmnïau, fel sy’n cael ei ddiffinio yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau’r DU 2006, pe baem yn sefydlu is-gwmnïau neu gwmnïau daliannol o’r fath yn y dyfodol.
    2. Mae’n bosibl y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon:
      1. Os byddwn yn gwerthu neu’n prynu unrhyw fusnes neu asedau, ac os hynny mae’n bosibl y byddwn yn datgelu eich data personol i ddarpar werthwr neu brynwr y cyfryw fusnes neu asedau;
      2. Os bydd SWGfL neu gyfran helaeth o’i asedau yn cael eu prynu gan drydydd parti, sy’n golygu y bydd data personol a gedwir ganddo am ei ddefnyddwyr a’i gwsmeriaid yn un o’r asedau a drosglwyddir; a/neu
      3. Os oes gennym ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, neu er mwyn gorfodi neu gymhwyso ein telerau defnyddio a chytundebau eraill; neu er mwyn diogelu hawliau, eiddo, neu ddiogelwch SWGfL, ein defnyddwyr a’n cwsmeriaid, neu eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth â chwmnïau a sefydliadau eraill at ddibenion amddiffyn rhag troseddau a thwyll a lleihau risg credyd.
  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below