Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ac yn cael ei weithredu gan SWGfL.
Mae gennym brofiad o redeg dwy linell gymorth lwyddiannus, sef y Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol a’r Llinell Gymorth Pornograffi Dial. Mae’r profiad hwn wedi’n galluogi i ddatblygu set unigryw o sgiliau, dealltwriaeth a chysylltiadau â diwydiant i ddarparu cymorth arbenigol.
Buom yn astudio canllawiau cymunedol nifer o wahanol blatfformau er mwyn canfod pa fathau o gynnwys sy’n debygol o fod yn groes i’r telerau. Rydym wedi gweithio’n galed i greu platfform diogel ac effeithiol i riportio cynnwys niweidiol.
Mae rhai mathau o gynnwys na all Riportio Cynnwys Niweidiol gynnig cymorth mewn cysylltiad â nhw. Mae hyn oherwydd bod gwasanaethau arbenigol, pwrpasol yn bodoli’n barod – er enghraifft, Action Counters Terrorism. Darllenwch yr adran Cyngor ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y mathau hyn o niwed a dod o hyd i gyfarwyddiadau syml a chlir ynglŷn â beth i’w wneud er mwyn dod o hyd i’r cymorth gorau.
Mae Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU yn bartneriaeth rhwng tri sefydliad arweiniol sy’n rhannu’r un nod – hybu defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg i bobl ifanc. Penodwyd y bartneriaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd fel y Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel ar gyfer y DU ym mis Ionawr 2011 ac mae’n un o 31 Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel yn y rhwydwaith Insafe.
Ewch i Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU
Mae SWGfL yn un o bartneriaid Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, consortiwm sy’n gweithio er mwyn sicrhau mai’r DU yw’r lle mwyaf diogel yn y byd i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Mae SWGfL yn elusen sydd wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau rhyngrwyd i gadw pobl yn ddiogel ar-lein ers degawdau. Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi datblygu protocolau sy’n ein galluogi i gyfryngu rhwng achwynwyr a’r darparwyr i geisio datrys y mater a chael gwared ar unrhyw gynnwys niweidiol sydd ar y platfform.