Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Gyda beth gallwn ni helpu?

  1. Cyngor
  2. Cynnwys Niweidiol Ar-lein: Eglurhad
  3. Gyda beth gallwn ni helpu?

Mae Riportio Cynnwys Niweidiol yn ganolfan riportio genedlaethol. Cafodd ei chynllunio er mwyn helpu pawb i riportio cynnwys niweidiol ar-lein.

Prif Swyddogaethau

Cyngor

Grymuso unrhyw un sydd wedi dod ar draws cynnwys niweidiol ar-lein i’w riportio drwy ddarparu gwybodaeth gyfredol am safonau cymunedol a dolenni sy’n arwain yn syth at y cyfleusterau riportio cywir ar draws nifer o blatfformau.

Riportio

Darparu cymorth pellach i ddefnyddwyr dros 13 oed sydd eisoes wedi cyflwyno adroddiad i’r diwydiant ac a fyddai’n hoffi i’r canlyniadau gael eu hadolygu. Bydd Riportio Cynnwys Niweidiol yn gwirio adroddiadau a gyflwynwyd, ac ymatebion y diwydiant, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gweithdrefnau adrodd platfformau penodol a safonau cymunedol, gyda’r bwriad o roi rhagor o gyngor i ddefnyddwyr ynglŷn â’r camau y gallant eu cymryd.

Bydd y botwm riportio yn mynd â chi drwy’r broses riportio ac yn cynnig cyngor priodol. Byddwn yn ceisio ymateb i’ch ymholiad cyn pen 72 awr, ond gallai gymryd mwy o amser i ymchwilio’n llawn i’r digwyddiad a datrys y broblem. Os na allwn helpu i ddatrys y broblem, lle bynnag y bo modd byddwn yn egluro pam nad yw’n bosibl ceisio cyfryngu (er enghraifft os nad yw’r mater yn mynd yn groes i delerau safle) a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â phobl a all ddarparu cymorth cofleidiol. 

Weithiau mae’r ymddygiad niweidiol ar-lein yn rhan o broblem ehangach (er enghraifft stelcio neu gam-drin domestig) felly mae gennym ganllaw cynhwysfawr i’r gwasanaethau cymorth hyn hefyd.

Sut mae diffinio cynnwys niweidiol?

Yn syml iawn, mae cynnwys niweidiol yn golygu unrhyw beth ar-lein sy’n achosi gofid neu niwed i rywun. 

Mae hyn yn cwmpasu llawer iawn o gynnwys, a gall fod yn oddrychol iawn, gan ddibynnu pwy sy’n edrych arno; efallai na fydd rhywbeth sy’n niweidiol i un person yn cael ei ystyried yn broblem gan rywun arall.

Pa fath o adroddiadau am gynnwys niweidiol allwch chi eu hadolygu a chynnig rhagor o gyngor amdanynt?

Gallwn adolygu adroddiadau sy’n cael eu gwneud am yr wyth math isod o niwed ar-lein:

  1. Cam-drin Ar-lein
  2. Bwlio neu Aflonyddu
  3. Bygythiadau
  4. Ffugio bod yn Rhywun Arall
  5. Cynigion Rhywiol Digroeso (Heb fod yn Seiliedig ar Lun)
  6. Cynnwys Treisgar
  7. Cynnwys am Hunan-niwed neu Hunanladdiad
  8. Cynnwys Pornograffig

Pam yr wyth yma?

Rydym wedi astudio canllawiau cymunedol nifer o wahanol blatfformau, ac mae’r meysydd cynnwys hyn yn debygol o fod yn groes i’r telerau. Yn ogystal, ar sail ein profiad blaenorol o redeg dwy linell gymorth, y Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol a’r Llinell Gymorth Pornograffi Dial, gwyddom y gallwn gynnig rhagor o gyngor a chymorth arbenigol yn y meysydd hyn.

Efallai eich bod yn meddwl pam nad ydym yn cynnig cymorth riportio ar gyfer mathau eraill o niwed ar-lein; mae hyn oherwydd bod ffyrdd eraill o ddatrys materion sy’n ymwneud â chategorïau eraill o gynnwys niweidiol. Mae gwasanaethau arbenigol, pwrpasol yn bodoli’n barod – er enghraifft, Action Counters Terrorism. Darllenwch yr adran Cyngor ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y mathau hyn o niwed a sut i ddod o hyd i gymorth.

A oes adnoddau eraill ar Riportio Cynnwys Niweidiol?

Rydym yn cydnabod y gall cynnwys niweidiol ar-lein fod yn rhan o broblem fwy. O ganlyniad, rydym yn eich cyfeirio at wasanaethau eraill a all helpu.

Rydym hefyd yn rhoi gwybodaeth i’r heddlu am y mecanweithiau riportio amrywiol sydd ar gael iddyn nhw fel corff sy’n gorfodi’r gyfraith.

Mae ein gwaith gyda’r diwydiant yn parhau, ac fe welwch hefyd ddolenni sy’n arwain at adroddiadau tryloywder ar gyfer y platfformau rhwydweithio cymdeithasol mwyaf cyffredin ynghyd â dolenni ar gyfer canolfannau diogelwch platfformau rhwydweithio cymdeithasol eraill ar y safle

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below