Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Troseddau Casineb

  1. Cynnwys Niweidiol Arall
  2. Trosedd Gasineb

Mae gwefan True Vision Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu yn diffinio troseddau casineb fel unrhyw drosedd sy’n targedu person oherwydd gelyniaeth neu ragfarn yn erbyn:

  • anabledd
  • hil neu ethnigrwydd
  • crefydd neu gred
  • cyfeiriadedd rhywiol, neu
  • hunaniaeth drawsryweddol

y person hwnnw.

Gall troseddau casineb gael eu cyflawni yn erbyn person neu eiddo. Nid oes rhaid i ddioddefwr fod yn aelod o’r grŵp y mae’r elyniaeth wedi’i thargedu tuag ato. Mewn gwirionedd, gallai unrhyw un ddioddef trosedd gasineb.

Nid yw’r rhan fwyaf o’r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml yn goddef troseddau casineb, ac mae dolenni riportio i’w gweld isod. Fodd bynnag, mae polisïau pob un ynglŷn â beth sy’n cael ei ganiatáu a beth sydd ddim yn cael ei ganiatáu yn amrywio. Er enghraifft, pan fydd rhywun yn mynegi barn ynglŷn â pherson neu grŵp o bobl, gallai’r person neu’r bobl maen nhw’n siarad amdanyn nhw deimlo bod y farn hon yn llawn casineb ac yn brifo, ond mae’n bosibl nad yw’r person sy’n mynegi’r farn wedi bwriadu i hynny ddigwydd. Pan fyddwn yn siarad am iaith casineb mae’n anodd peidio â chymysgu hynny ag anwybodaeth, a dyna pam y mae angen ystyried beth oedd bwriad y person sy’n mynegi’r farn. Gallwch weld wedyn ei bod yn aml yn anodd iawn i blatfformau ar-lein benderfynu a ddylai rhywbeth gael ei dynnu i lawr. 

Wrth gwrs mae iaith casineb yn drosedd, ac os yw’n bosibl, dylech riportio’r drosedd i’ch heddlu lleol ar 101. Yn ffodus iawn, mae gennym blatfform riportio pwrpasol yn y DU yn barod ar gyfer y math hwn o gynnwys: True Vision. Mae True Vision yn arbenigwyr am benderfynu a yw rhywbeth yn drosedd gasineb, ac maent wedi datblygu cyfleuster ar-lein i alluogi unigolion nad ydynt eisiau mynd at yr heddlu i riportio troseddau casineb.

Riportio Troseddau Casineb

Darganfyddwch isod sut i riportio troseddau casineb i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml:

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below