Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Eiddo Deallusol

  1. Cynnwys Niweidiol Arall
  2. Eiddo Deallusol

Mathau o Dorri Rheolau Eiddo Deallusol

Yn gyffredinol, mae eiddo deallusol yn cael ei rannu’n ddau gategori: nod masnach a hawlfraint.

1. Nod masnach

Gellir diffinio hyn fel symbol, gair neu eiriau sydd wedi’u cofrestru’n gyfreithiol neu eu sefydlu ar gyfer eu defnyddio i gynrychioli cwmni neu gynnyrch. Enghraifft gyffredin o dorri rheolau nod masnach fyddai defnyddio logo sefydliad heb ei ganiatâd. Beth bynnag yw pwrpas hyn, boed yn enillion masnachol neu’n sbort, byddai’n torri’r canllawiau cymunedol. Pam? Wel meddyliwch am y risg i enw da cwmni, elusen neu sefydliad pe bai rhywun yn defnyddio ei logo, ac yn ei gysylltu â rhywbeth nad yw’n gydnaws ag egwyddorion y cwmni. Er enghraifft, gallai fod yn niweidiol iawn i elusen achub cathod pe baech yn creu tudalen â’u logo nhw ac yn postio “ry’n ni’n casáu cathod”. Fel arfer dim ond at fusnesau neu sefydliadau y mae nod masnach yn cyfeirio.

2. Hawlfraint

Mae hawlfraint yn amddiffyn gwaith awdur. Mae’n fath o eiddo deallusol sy’n rhoi hawliau cyhoeddi, dosbarthu a defnyddio ecsgliwsif i’r awdur. Mae hyn yn golygu na all unrhyw gynnwys sy’n cael ei greu gan yr awdur gael ei ddefnyddio gan rywun arall heb ganiatâd yr awdur. Er enghraifft, mae hawlfraint yn amddiffyn mynegiant gwreiddiol fel cerddoriaeth, barddoniaeth neu gelf.

Tudalennau Lleoedd Facebook

Ar Facebook, peidiwch â chamgymryd tudalennau lleoedd am gamddefnydd o’ch eiddo deallusol. Mae tudalennau lleoedd yn cael eu cynhyrchu gan Facebook ar gyfer lleoliadau arwyddocaol, er mwyn i bobl dagio eu hunain ynddynt a/neu adael adolygiadau. Maent yn cael eu cynhyrchu yn unol â Google Maps, ac mae opsiwn i hawlio tudalen os yw’n fusnes i chi.

Riportio Torri Rheolau Eiddo Deallusol

Darganfyddwch isod sut i riportio achosion o dorri rheolau eiddo deallusol i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml:

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below