Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Delweddau Rhywiol a Gynhyrchir gan Bobl Ifanc

(sydd hefyd yn cael ei alw'n Secstio)

  1. Cynnwys Niweidiol Arall
  2. Delweddau Rhywiol a Gynhyrchir gan Bobl Ifanc

Mae secstio yn derm sydd wedi cael ei fathu gan y cyfryngau yn y DU i ddisgrifio rhannu delweddau personol ymhlith pobl ifanc (dan 18) gan ddefnyddio technolegau ar-lein a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Yn aml iawn bydd pobl ifanc yn teimlo gormod o gywilydd i ddod ymlaen a gofyn am help os yw hyn wedi digwydd iddyn nhw, a gall hyn olygu bod y ddelwedd yn lledaenu ymhellach gan achosi mwy o ofid iddyn nhw.

Er ei bod yn anghyfreithlon i bobl ifanc dan 18 oed rannu delweddau personol yn y DU, nid yw erlyn pobl ifanc o fudd i’r cyhoedd, ac mae camau y gall yr heddlu eu cymryd i helpu i amddiffyn dioddefwyr. Os yw’r heddlu’n ymwneud â digwyddiad arbennig gwnewch yn siŵr eich bod yn eu holi ynglŷn â Chanlyniad 21 ac yn gofyn sut y gall hyn helpu.

Os yw hyn wedi digwydd i chi, ac os nad ydych chi eisiau gofyn i ffrind neu oedolyn am help, efallai y bydd ein hadnodd So You Got Naked Online yn ddefnyddiol.

Mae gan y rhan fwyaf o’r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio amlaf lwybrau riportio ar gyfer y math hwn o gynnwys, a bydd Facebook, Instagram a Messenger yn rhoi cod unigryw (hash) i’r cynnwys i’w atal rhag cael ei lanlwytho i’w platfformau eto.

Riportio Delweddau Personol

Darganfyddwch isod sut i riportio delweddau personol i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml:

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below