Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Cynnwys Terfysgaeth

  1. Cynnwys Niweidiol Arall
  2. Cynnwys Terfysgaeth

Diffinnir terfysgaeth yn aml fel sefydliadau anllywodraethol sy’n ymwneud â gweithredoedd treisgar rhagfwriadol yn erbyn personau neu eiddo i godi braw, er mwyn cyflawni nod gwleidyddol, crefyddol neu ideolegol.

Nid yw cynnwys sy’n mawrygu terfysgaeth yn cael ei oddef ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol ac fel arfer bydd yn cynnwys deunydd anghyfreithlon. Mae sicrhau bod y cynnwys yn cael ei dynnu oddi ar blatfformau ar-lein yn un rhan o’r gwaith, a bydd gan y safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio amlaf ddolenni er mwyn riportio’r math hwn o gynnwys.

Fodd bynnag, mae rhan arall o’r wybodaeth yn ymwneud â’r bobl neu’r grwpiau sy’n postio’r cynnwys, ac mae angen i hyn gyrraedd cronfa ddata ganolog ar gyfer gorfodi cyfraith, fel bod modd ymchwilio’n llawn i’r elfen all-lein. Mae’r llywodraeth wedi creu porth ar-lein penodol i riportio’r math hwn o gynnwys yn syth iddyn nhw.

Riportio Cynnwys Terfysgaeth

Darganfyddwch isod sut i riportio cynnwys Terfysgaeth i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml:

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below