Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Cynnig Abwyd

  1. Cynnwys Niweidiol Arall
  2. Cynnig Abwyd

Mae cynnig abwyd yn fath o ffugio bod yn rhywun arall, ond yn wahanol i dorri rheolau eiddo deallusol, mae’n ymwneud â’r unigolyn, yn hytrach na sefydliad neu fusnes. Mewn achos cyffredin o gynnig abwyd bydd un unigolyn yn defnyddio delweddau unigolyn arall i greu “proffil ffug” tebyg, weithiau er mwyn achosi gofid, a dro arall dim ond er mwyn rhoi cynnig ar hunaniaeth gwahanol. Mae cynnig abwyd hefyd yn gyffredin mewn ‘sgamiau rhamant’ ar-lein. Yma, bydd yr unigolyn yn creu proffil caru ffug, a hynny’n aml er mwyn manteisio’n ariannol ar ei ddioddefwyr.

Yn gyffredinol, mae unrhyw fath o ffugio bod yn rhywun arall, gan gynnwys cynnig abwyd, yn annerbyniol ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol, a gellir ei riportio fel ffugio bod yn rhywun arall neu darfu ar breifatrwydd. Twitter yw un o’r ychydig blatfformau sy’n caniatáu math o ffugio bod yn rhywun arall: parodi. Mae hyn yn cael ei ganiatáu dim ond os yw’r cyfrif yn dangos yn glir i ddilynwyr mai parodi ydyw ac nid cyfrif go iawn. Mae gan y Frenhines, er enghraifft, lawer o gyfrifon parodi.

Riportio Cynnig Abwyd

Darganfyddwch isod sut i riportio cynnig abwyd i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml:

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below