treisgar hyd yn oed. Gallai hyn gynnwys fideos YouTube treisgar, cynnwys graffig yn portreadu pethau fel torri pennau i ffwrdd a cham-drin anifeiliaid, neu ddiweddariadau sy’n disgrifio trais domestig neu drais yn y gweithle.
Mae’n anorfod y bydd y math hwn o gynnwys yn codi llawer o gwestiynau ym meddyliau’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, fel: Sut alla i stopio gweld hyn ar fy ffrwd newyddion? Ydy hyn yn anghyfreithlon? Alla i riportio hyn i’r heddlu? A sut mae riportio troseddau Rhyngrwyd p’un bynnag?
Os ydych yn chwilio am atebion i’r cwestiynau hyn, peidiwch â chynhyrfu! Mae lleoedd y gallwch droi atynt i gael help a chefnogaeth. Nid yw cynnwys treisgar yn cael ei oddef ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol a gellir ei riportio’n uniongyrchol ac yn ddienw i’r platfformau hyn.
Mae unrhyw fath o drais yn anghyfreithlon a dylid ei riportio i’r heddlu. Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, wedi dioddef trais, gan gynnwys trais domestig, mae gwasanaethau cymorth eraill ar gael.
Cofiwch, os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar 999 i gael help.
Darganfyddwch isod sut i riportio cynnwys treisgar i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml: