Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Sut mae Delio â Chynnwys am Anhwylderau Bwyta ar y Cyfryngau Cymdeithasol

  1. Cyngor
  2. Sut mae Delio â Chynnwys am Anhwylder Bwyta ar Gyfryngau Cymdeithasol

Mae llawer o wahanol fathau o anhwylderau bwyta, gan gynnwys Anorecsia, Bwlimia, Anhwylder Gorfwyta mewn Pyliau ac Orthorecsia. Os ydych yn cael anhawster i ymdopi â materion sy’n gysylltiedig â delwedd negyddol o’r corff, yn teimlo’n ansicr ynglŷn â’ch corff neu’n ceisio gwella ar ôl bod ag anhwylder bwyta, gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn lle anodd neu beryglus.

Ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol, fel Instagram, Tumblr a Facebook, mae’n bosibl y byddwch yn dod ar draws memynnau a hashnodau proana, promia neu thinspo. Gall hyn wneud y dasg o ddelio gydag anhwylder bwyta, gwella ohono neu ofyn am help yn anodd.

Os ydych yn mynd drwy hyn, mae’n bosibl y byddwch yn meddwl: Ydy’r cyfryngau cymdeithasol yn achosi anhwylderau bwyta? Sut alla i wella fy nelwedd o’m corff a dal i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol? A sut alla i beidio ag ysgogi cynnwys ar-lein? Peidiwch â chynhyrfu! Rydyn ni yma i gynnig cyngor a chymorth â’r materion hyn.

Mae llawer o gwmnïau cyfryngau cymdeithasol wedi datgan nad ydynt yn goddef cynnwys sy’n hybu anhwylderau bwyta. Maent yn ei ddosbarthu fel cynnwys hunan-niweidio a gellir ei riportio yn uniongyrchol i’r platfformau hyn.

Mae’r rhan fwyaf o safleoedd cyfryngau cymdeithasol, a phlatfformau ar-lein eraill, hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i gael help a chefnogaeth i unrhyw un sydd ag anhwylder bwyta, sy’n hunan-niweidio neu sy’n meddwl am hunanladdiad.

Darganfyddwch isod sut i riportio cynnwys am anhwylder bwyta i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml:

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below