cam-drin ar-lein, fel unrhyw fath o gam-drin, fod yn beth ofnadwy i’w brofi neu i’w weld. Os ydych chi wedi dioddef cam-drin ar-lein, a’ch bod yn chwilio am gymorth a chyngor, rydych wedi dod i'r lle iawn.
Yn gyntaf, gadewch i ni drafod y pethau elfennol: beth yn union yw cam-drin ar y rhyngrwyd a beth yw cam-drin ar-lein?
Mae cam-drin ar-lein yn derm cyffredinol ar gyfer unrhyw fath o gam-drin sy’n digwydd ar y rhyngrwyd. Gall ddigwydd drwy ebost, drwy apiau anfon negeseuon (fel WhatsApp a Snapchat), ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol (fel Facebook ac Instagram) ac ar blatfformau chwarae gemau ar-lein (fel Xbox a Roblox). Mae llawer o wahanol fathau o gam-drin ar-lein yn bodoli, gan gynnwys seiberfwlio, aflonyddu rhywiol, meithrin perthynas amhriodol ar-lein a chamddefnyddio delweddau personol.
Os ydych wedi dioddef unrhyw un o’r mathau hyn o gam-drin, mae’n bosibl y byddwch yn gofyn cwestiynau tebyg i’r rhain i chi eich hun: sut mae ymdrin â cham-drin ar-lein a sicrhau nad yw’n digwydd eto? Alla i riportio cam-drin ar-lein? Ac os gallaf, beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn ei riportio? Rydyn ni yma i ateb y cwestiynau hyn a’ch helpu i symud ymlaen.
Yn gyntaf, os ydych yn cael anhawster i ymdopi ag effeithiau cam-drin ar-lein, mae lleoedd y gallwch droi atynt i gael help a chefnogaeth. Nid yw cam-drin yn cael ei oddef ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml, a gallwch hefyd ei riportio’n uniongyrchol i’r platfformau hyn. Dylai pob achos o gam-drin sy’n cael ei riportio i safleoedd cyfryngau cymdeithasol gael ei gymryd o ddifri ac ni fydd unrhyw enwau’n cael eu datgelu.
Cofiwch, os ydych mewn perygl uniongyrchol, neu os oes gennych bryder yn ymwneud â diogelu, dylech gysylltu â’r heddlu.
Darganfyddwch isod sut i riportio cam-drin ar-lein i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml: