fideos anaddas i blant, fideos pornograffig, neu fideos rhywiol di-chwaeth. Gall hyn achosi gofid a phryder, yn enwedig i blant ifanc a’u rhieni.
Os ydych chi neu eich plentyn wedi gweld cynnwys pornograffig ar y cyfryngau cymdeithasol, efallai eich bod yn meddwl: Sut mae delio gyda hyn? Sut alla i wneud yn siŵr nad ydw i’n gweld y math hwn o gynnwys? A sut alla i wneud yn siŵr nad yw fy nheulu’n ei weld yn y dyfodol?
Os ydych yn poeni ynglŷn â hyn, peidiwch â chynhyrfu! Mae camau y gallwch eu cymryd i gael rheolaeth yn ôl. Mae cynnwys anaddas i blant, gan gynnwys delweddau a fideos noeth ac sy’n amlwg yn rhywiol, yn mynd yn groes i ganllawiau cymunedol y rhan fwyaf o’r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml a gellir eu riportio’n uniongyrchol i’r platfformau hyn. Mae nifer o adnoddau ar gael hefyd i’ch helpu i hidlo a monitro defnydd eich teulu o’r rhyngrwyd. Os yw rhywbeth rydych chi wedi’i weld ar-lein wedi achosi gofid mawr i chi, mae lleoedd y gallwch droi atynt er mwyn chwilio am ffynonellau cymorth ychwanegol.
Cofiwch fod cynnwys cignoeth sy’n dangos pobl ifanc dan 18 oed (Deunydd Cam-drin Plant yn Rhywiol) yn anghyfreithlon ac y dylid ei riportio i’r Internet Watch Foundation (IWF). Mae deunydd personol sy’n cael ei rannu heb gydsyniad rhywun hefyd yn anghyfreithlon (camddefnyddio delweddau personol). Gall dioddefwyr y drosedd hon ei riportio i’r heddlu a gofyn am help gan y Llinell Gymorth Pornograffi Dial.
Darganfyddwch isod sut i riportio cynnwys pornograffig i safleoedd rhwydweithio sy’n cael eu defnyddio’n aml: