bygythiadau neu orfodaeth sy’n cael ei gwneud drwy blatfform cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft Facebook, WhatsApp neu Google Hangouts. Un o’r mathau mwyaf cyffredin o flacmel ar-lein yw blacmel rhywiol, lle mae rhywun yn bygwth datgelu lluniau neu fideos personol ohonoch ar-lein (enw arall ar hyn yw camddefnyddio delweddau personol).
Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth sy’n digwydd i chi, efallai y byddwch yn meddwl 'beth alla i ei wneud os oes rhywun yn fy mlacmelio ar-lein'? Os oes rhywun yn eich blacmelio ar-lein mae pethau y gallwch eu gwneud i’w atal neu ei stopio. Nid yw blacmel yn cael ei oddef ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a gellir ei riportio’n uniongyrchol i’r platfformau hyn.
Os ydych yn dioddef blacmel rhywiol gallwch hefyd gael help gan y Llinell Gymorth Pornograffi Dial.
Yn olaf, efallai y byddwch hefyd yn gofyn cwestiynau fel hyn i chi eich hun: Ydy bygwth rhywun ar-lein yn drosedd? Ac alla i riportio blacmel ar-lein i’r heddlu? Mae blacmel ar-lein, gan gynnwys blacmel rhywiol, yn drosedd, ac mae’n anghyfreithlon. Dylech riportio blacmel ar-lein i’r heddlu ar 101.
Darganfyddwch isod sut i riportio blacmel i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml: