Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Mae Rhywun yn Aflonyddu’n Rhywiol Arnaf Ar-lein

  1. Bwlio neu Aflonyddu
  2. Mae Rhywun yn Aflonyddu’n Rhywiol Arnaf Ar-lein

Yn ddelfrydol, dylai’r Rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol fod yn lle diogel a chynhwysol i bawb ei fwynhau. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn wir, ac ambell waith gallai rhywun fod yn aflonyddu’n rhywiol arnoch ac yn eich cam-drin. Os yw hyn wedi digwydd i chi, neu os yw’n digwydd i chi ar hyn o bryd, peidiwch â phoeni, rydym yma i gynnig cyngor a chefnogaeth.

Yn gyntaf, gadewch i ni drafod y pethau elfennol: Beth mae aflonyddu’n rhywiol yn ei olygu? A sut fyddai rhywun yn gallu aflonyddu’n rhywiol arnoch ar-lein?

Diffinnir aflonyddu rhywiol ar-lein fel ymddygiad rhywiol digroeso ar unrhyw blatfform digidol neu safle cyfryngau cymdeithasol. Gall ‘ymddygiad rhywiol digroeso’ ddigwydd mewn llawer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys derbyn negeseuon neu ddelweddau wedi’u rhyweiddio (e.e. lluniau o organau rhywiol dynion), dioddef bwlio o natur rywiol neu brofi camddefnyddio delweddau personol (a elwir hefyd yn 'Bornograffi Dial').

Mae defnyddwyr yn riportio aflonyddu rhywiol yn aml ar apiau caru fel Tinder, Bumble a Grindr. Yn anffodus, gall ddigwydd ar safleoedd fel Twitter a LinkedIn hefyd. Mae aflonyddu rhywiol ar-lein yn aml yn digwydd ochr yn ochr ag aflonyddu yn yr ysgol neu’r gweithle, a gall achosi i unigolyn deimlo ei fod yn cael ei fygwth, neu ei fychanu, a bod pobl yn gwahaniaethu yn ei erbyn.

Os ydych wedi cael profiad o’r uchod, mae’n bosibl y byddwch yn gofyn cwestiynau fel hyn i chi eich hun: Beth alla i ei wneud os bydd rhywun yn aflonyddu’n rhywiol arnaf? Sut mae riportio aflonyddu rhywiol ar-lein? Ac ydy aflonyddu rhywiol ar-lein yn anghyfreithlon? Peidiwch â chynhyrfu! Rydyn ni yma i roi atebion i’r cwestiynau hyn. 

Yn gyntaf, os oes rhywun yn aflonyddu’n rhywiol arnoch ar hyn o bryd, mae nifer o leoedd y gallwch droi atynt i gael help a chefnogaeth. Nid yw aflonyddu rhywiol yn cael ei oddef ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a gellir ei riportio’n uniongyrchol i’r platfformau hyn. Gallwch hefyd riportio aflonyddu rhywiol i wefannau caru sy’n cael eu defnyddio’n aml, yn yr ap neu drwy’r canolfannau cymorth. Os ydych wedi dioddef camddefnyddio delweddau personol, gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Pornograffi Dial i gael rhagor o gymorth. 

Mae pob trais rhywiol, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, yn anghyfreithlon a dylid ei riportio i’r Heddlu. Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.

Darganfyddwch isod sut i riportio cynigion rhywiol digroeso i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml:

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below