Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Beth yw Riportio Cynnwys Niweidiol?

  1. Cyngor
  2. Cynnwys Niweidiol Ar-lein: Eglurhad

Cynlluniwyd y ganolfan riportio genedlaethol hon, a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2019, er mwyn helpu pawb i riportio cynnwys niweidiol ar-lein. Mae gan Riportio Cynnwys Niweidiol ddwy brif swyddogaeth:

  1. Cyngor: Grymuso unrhyw un sydd wedi dod ar draws cynnwys niweidiol ar-lein i’w riportio drwy ddarparu gwybodaeth gyfredol am safonau cymunedol a dolenni sy’n arwain yn syth at y cyfleusterau riportio cywir ar draws nifer o blatfformau.
  2. Riportio: Darparu cymorth pellach i ddefnyddwyr dros 13 oed sydd eisoes wedi cyflwyno adroddiad i’r diwydiant ac a fyddai’n hoffi i’r canlyniadau gael eu hadolygu. Bydd Riportio Cynnwys Niweidiol yn gwirio adroddiadau a gyflwynwyd, ac ymatebion y diwydiant, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gweithdrefnau adrodd a safonau cymunedol platfformau penodol, gyda’r bwriad o roi rhagor o gyngor i ddefnyddwyr ynglŷn â’r camau y gallant eu cymryd.

Sut mae diffinio cynnwys niweidiol?

Yn syml iawn, mae cynnwys niweidiol yn golygu unrhyw beth ar-lein sy’n achosi gofid neu niwed i rywun. Mae hyn yn cwmpasu llawer iawn o gynnwys, a gall fod yn oddrychol iawn, gan ddibynnu pwy sy’n edrych arno; efallai na fydd rhywbeth sy’n niweidiol i un person yn cael ei ystyried yn broblem gan rywun arall.
Rydym yn canolbwyntio ar y canlynol:

  1. Cyngor: Darparu cyngor am bob math o niwed ar-lein, a chyfeirio defnyddwyr at y gwasanaethau a’r llwybrau riportio cywir yn adran gyngor y wefan
  2. Riportio: Canolbwyntio ar gynnwys nad yw’n torri’r gyfraith, oherwydd cyn hyn, os oedd pobl heb gael yr ymateb roeddent yn ei ddisgwyl gan y diwydiant doedd dim byd arall y gallent ei wneud

Pa fath o adroddiadau am gynnwys niweidiol allwch chi eu hadolygu a chynnig rhagor o gyngor amdanynt?

Gallwn adolygu adroddiadau sy’n cael eu gwneud am yr wyth math isod o niwed ar-lein?

  1. Cam-drin Ar-lein
  2. Bwlio neu Aflonyddu
  3. Bygythiadau
  4. Ffugio bod yn Rhywun Arall
  5. Cynigion Rhywiol Digroeso (Heb fod yn Seiliedig ar Lun)
  6. Cynnwys Treisgar
  7. Cynnwys am Hunan-niwed neu Hunanladdiad
  8. Cynnwys Pornograffig

Pam yr wyth yma?

Rydym wedi astudio canllawiau cymunedol nifer o wahanol blatfformau, ac mae’r meysydd cynnwys hyn yn debygol o fod yn groes i’r telerau. Yn ogystal, ar sail ein profiad blaenorol o redeg dwy linell gymorth, y Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol a’r Llinell Gymorth Pornograffi Dial, gwyddom y gallwn gynnig rhagor o gyngor a chymorth arbenigol yn y meysydd hyn.
Efallai eich bod yn meddwl pam nad ydym yn cynnig cymorth riportio ar gyfer mathau eraill o niwed ar-lein; mae hyn oherwydd bod ffyrdd eraill o ddatrys materion sy’n ymwneud â chategorïau eraill o gynnwys niweidiol. Er enghraifft, meddyliwch am ddarn o bropaganda adain dde eithafol ar safle rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael ei ddefnyddio’n aml: gellir ei riportio i’r platfform dan ei bolisïau cynnwys eithafol ac yna i’r gwasanaeth cenedlaethol Action Counters Terrorism er mwyn ymchwilio ymhellach iddo. Ein gwaith yma yw cyfeirio pobl at y lleoedd iawn i riportio cynnwys o’r fath. Mae’r adran Cyngor ar ein gwefan yn ymwneud â hyn.

Beth arall sydd i’w weld ar Riportio Cynnwys Niweidiol?

Rydym yn cydnabod y gall cynnwys niweidiol ar-lein fod yn rhan o broblem fwy, ac o ganlyniad rydym yn cyfeirio at wasanaethau eraill a all helpu. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth i’r heddlu am y mecanweithiau riportio amrywiol sydd ar gael iddynt hwy fel cyrff sy’n gorfodi’r gyfraith. Mae ein gwaith gyda’r diwydiant yn parhau, a gallwch hefyd weld dolenni sy’n arwain at yr adroddiadau tryloywder diweddaraf ar gyfer y platfformau rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio amlaf, ynghyd â dolenni i ganolfannau diogelwch platfformau rhwydweithio cymdeithasol eraill ar y safle.

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below