Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Cynnwys Graffig nad yw’n Mynd yn Groes i’r Telerau

  1. Cyngor
  2. Cynnwys Graffig nad yw’n Mynd yn Groes i’r Telerau

Bydd rhai delweddau y byddwch yn eu gweld ar-lein yn rhai graffig ac annymunol, ond weithiau mae angen y delweddau hyn, felly ni fyddant bob amser yn cael eu tynnu i lawr oherwydd eu bod yn torri’r rheolau. Enghreifftiau o’r rhain yw:

  • Cam-drin anifeiliaid – defnyddir delweddau graffig iawn yn aml er mwyn codi ymwybyddiaeth o greulondeb tuag at anifeiliaid, boed yn ddomestig neu’n ddiwydiannol (lles anifeiliaid yn y diwydiant bwyd). Mae angen cyfyngiadau oed ar gyfer rhai o’r delweddau hyn, a gallwch ddarganfod sut i riportio hyn yma;
  • Delweddau o ryfel a cholledion rhyfel – unwaith eto defnyddir delweddau er mwyn codi ymwybyddiaeth ac ymgyrchu;
  • Delweddau o hunan-niwed – bydd rhai platfformau’n tynnu’r cynnwys hwn i lawr ond bydd y rhan fwyaf yn ei adael. Mae’n bosibl defnyddio’r delweddau hyn fel rhan o stori pobl ac i’w dangos yn gwella, a gall ymgyrchwyr hefyd eu defnyddio er mwyn codi ymwybyddiaeth.
  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below