Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Cyfrifon Dan Oed

  1. Cynnwys Niweidiol Arall
  2. Cyfrifon Dan Oed

Mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml wedi’u lleoli yn UDA ac oherwydd hyn mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r gyfraith yn eu gwlad nhw. Mae Deddf Amddiffyn Preifatrwydd Ar-lein Plant (COPPA) yn yr Unol Daleithiau yn atal cwmnïau rhyngrwyd rhag hysbysebu’n fwriadol i bobl ifanc dan 13 oed, a hefyd yn cyfyngu ar faint o ddata y gallant eu casglu am blant dan 13 oed. Oherwydd hyn nid yw’r rhan fwyaf o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn caniatáu i blant dan 13 oed gael cyfrif.

Gall rhiant neu warcheidwad person ifanc riportio cyfrifon dan oed i’r gwasanaethau rhwydweithio cymdeithasol mwyaf cyffredin, a bydd y cyfrif yn cael ei dynnu i lawr yn syth ar ôl i’r adroddiad gael ei dderbyn. Fodd bynnag, pan fydd cyfrif wedi cael ei dynnu i lawr, bydd yr holl ddata a oedd yn y cyfrif (e.e. delweddau) yn cael eu dileu gyda’r cyfrif, felly mae’n werth nodi hynny. Fel arfer, mae ar rieni eisiau i gyfrif gael ei dynnu i lawr oherwydd ei fod yn hwyluso ymddygiad niweidiol. Mae’n bwysig cofio na fydd tynnu cyfrifon i lawr bob amser yn atal ymddygiad niweidiol, ac mae’n bosibl y bydd angen datrys y broblem sylfaenol all-lein.

Riportio Cyfrifon Dan Oed

Darganfyddwch isod sut i riportio cyfrifon dan oed i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml:

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below