Cwestiynau Cyffredin
Cynlluniwyd y dudalen hon i ddarparu rhestr o atebion i gwestiynau cyffredin am Riportio Cynnwys Niweidiol:
Beth yw Riportio Cynnwys Niweidiol?
Lansiwyd Riportio Cynnwys Niweidiol ym mis Rhagfyr 2018. Mae’n ganolfan riportio genedlaethol sydd wedi’i chynllunio er mwyn helpu pawb i riportio cynnwys niweidiol ar-lein. Ein nod yw:
- Darparu gwybodaeth am ganllawiau cymunedol safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml (gweler ‘beth yw canllawiau cymunedol?’ am ragor o wybodaeth).
- Rhoi cyngor ynglŷn â sut i riportio problemau i’r cyfryngau cymdeithasol.
- Cyfryngu rhyngoch chi a’r cyfryngau cymdeithasol (e.e. uwchgyfeirio adroddiadau heb eu datrys neu egluro pam nad yw cynnwys wedi’i dynnu i lawr).
- Darparu cymorth i dynnu cynnwys niweidiol oddi ar blatfformau.
Mae Riportio Cynnwys Niweidiol yn rhan o South West Grid for Learning (SWGfL), elusen ddiogelwch ar-lein a’r prif bartner yng Nghanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU. Yn SWGfL, rydym yn gweithio ar y cyd â Childnet International a’r Internet Watch Foundation (IWF). Mae gennym dros 8 mlynedd o brofiad o ymdrin â phryderon am ddiogelwch ar-lein a niwed ar-lein, yn sgil ein gwaith yn rhedeg dwy linell gymorth: y Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol (POSH) a’r Llinell Gymorth Pornograffi Dial.
Mae ein cyngor a’n cefnogaeth arbenigol yn seiliedig ar y partneriaethau a’r profiadau hyn, ac yn manteisio ar y perthnasoedd gwaith gwych rydym wedi’u sefydlu gyda’r cyfryngau cymdeithasol.
Beth all Riportio Cynnwys Niweidiol fy helpu i wneud?
Os ydych wedi dod ar draws cynnwys rydych yn amau ei fod yn amheus ar-lein, ond eich bod yn dal ddim yn siŵr, gallwch ddod o hyd i help yn ein hadran gyngor. Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am y gwahanol fathau o gynnwys niweidiol sydd i’w gweld ar-lein.
Os byddwch yn penderfynu bod arnoch eisiau gwneud adroddiad cynnwys niweidiol i blatfform cyfryngau cymdeithasol, mae adran riportio ein gwefan yn rhoi canllawiau clir i chi ynglŷn â sut i wneud hynny, gan gynnwys gwybodaeth gyfredol am safonau cymunedol a dolenni uniongyrchol i’r cyfleusterau riportio cywir ar draws nifer o blatfformau.
Os ydych eisoes wedi cyflwyno adroddiad cynnwys niweidiol i’r cyfryngau cymdeithasol a’ch bod wedi cael ymateb anfoddhaol (e.e. nid oes sylw wedi’i roi i’r cynnwys niweidiol neu nid yw wedi cael ei dynnu i lawr), mae’n bosibl y gallwn gynnig rhagor o gymorth i chi. Gallwn adolygu ymatebion i adroddiadau ynglŷn â’r wyth math a ganlyn o niwed ar-lein:
- Bygythiadau
- Ffugio bod yn Rhywun Arall
- Bwlio neu Aflonyddu
- Cynnwys am Hunan-niwed neu Hunanladdiad
- Cam-drin Ar-lein
- Cynnwys Treisgar
- Cynigion Rhywiol Digroeso
- Cynnwys Pornograffig
Buom yn astudio canllawiau cymunedol nifer o wahanol blatfformau, a gwelsom mai’r mathau hyn o niwed yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o fod yn groes i’r telerau. Bydd ein tîm o arbenigwyr yn gallu asesu ymatebion gan y diwydiant i’r 8 math hyn o niwed ac uwchgyfeirio eich adroddiad heb ei ddatrys, os bernir bod hynny’n briodol.
Gyda beth dydy Riportio Cynnwys Niweidiol ddim yn gallu fy helpu?
Efallai y byddwch yn meddwl pam nad ydyn ni’n cynnig cymorth riportio ar gyfer mathau eraill o niwed ar-lein ar wahân i’r 8 prif niwed (Bwlio neu Aflonyddu, Bygythiadau, Ffugio bod yn Rhywun Arall, Cynigion Rhywiol Digroeso, Cynnwys Treisgar, Cynnwys am Hunan-niwed neu Hunanladdiad a Chynnwys Pornograffig a Cham-drin Ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth gweler ‘beth all Riportio Cynnwys Niweidiol fy helpu i wneud?’). Mae hyn oherwydd bod ffyrdd eraill yn aml o ddatrys materion sy’n ymwneud â chategorïau eraill o gynnwys niweidiol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y categori Arall yn yr adran gyngor ar ein gwefan.
O ran yr 8 prif fath o niwed, mae’n bosibl hefyd y bydd rhai achosion lle byddwn yn methu ag adolygu neu uwchgyfeirio’r ymateb rydych wedi’i gael gan y cyfryngau cymdeithasol. Er enghraifft, ni allwn uwchgyfeirio adroddiadau mewn achosion lle rydym yn cytuno â phenderfyniad y platfform i beidio â thynnu’r cynnwys i lawr. Rydym hefyd yn methu ag uwchgyfeirio adroddiadau nad ydynt yn ein barn ni’n ymwneud â’r pwnc (e.e. lle mae’r adroddiad yn ymwneud â niwed all-lein yn hytrach na niwed ar-lein) neu pan fydd yr adroddiad yn ymwneud â niwed anghyfreithlon a bod dull mwy priodol o ddelio gyda’r mater (e.e. cysylltu â’r heddlu). Rydym hefyd yn methu â helpu gydag adroddiadau am niwed ar-lein sydd y tu allan i gylch gwaith y prosiect (e.e. sbam, analluogrwydd ac yn y blaen).
Yn unrhyw rai o’r achosion uchod, byddwn bob amser yn egluro pam nad ydym yn gallu eich helpu ac yn eich cyfeirio at ffynonellau cymorth mwy priodol.
Nid ydym yn gallu derbyn adroddiadau am ddelweddau rhywiol o blant dan 18 oed. Gallwch riportio delweddau rhywiol o blant dan 18 oed ar-lein yn syth i’r Internet Watch Foundation. Os byddwch yn gweld rhywbeth ar-lein sy’n cefnogi, yn cyfarwyddo neu’n mawrygu terfysgaeth, rydym yn argymell eich bod yn ei riportio i Action Counters Terrorism.
Dan y rheoliadau GDPR newydd ni allwn dderbyn gwybodaeth gan blant dan 13 oed. Os ydych dan 13 oed a bod arnoch angen help i dynnu cynnwys niweidiol oddi ar y we, gofynnwch i’ch rhiant neu warcheidwad gwblhau ein dewin riportio ar eich rhan.
Sut mae diffinio cynnwys niweidiol?
Yn syml iawn, mae cynnwys niweidiol yn golygu unrhyw beth ar-lein sy’n achosi gofid neu niwed i rywun. Mae hyn yn cwmpasu llawer iawn o gynnwys, a gall fod yn oddrychol iawn, gan ddibynnu pwy sy’n edrych arno; efallai na fydd rhywbeth sy’n niweidiol i un person yn cael ei ystyried yn broblem gan rywun arall.
Yn Riportio Cynnwys Niweidiol, rydym yn adolygu adroddiadau sy’n cael eu gwneud i’r cyfryngau cymdeithasol am yr wyth math isod o niwed ar-lein:
- Cam-drin Ar-lein
- Bwlio neu Aflonyddu
- Bygythiadau
- Ffugio bod yn Rhywun Arall
- Cynigion Rhywiol Digroeso (Heb fod yn Seiliedig ar Lun)
- Cynnwys Treisgar
- Cynnwys am Hunan-niwed neu Hunanladdiad
- Cynnwys Pornograffig
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ‘beth all Riportio Cynnwys Niweidiol fy helpu i wneud?’
Sut mae cyflwyno adroddiad i Riportio Cynnwys Niweidiol?
Cyn i chi gyflwyno adroddiad i ni mae’n hanfodol eich bod wedi riportio’r deunydd i’r gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol yn uniongyrchol, gan ddefnyddio ei offer ar-lein (o leiaf 48 awr yn ôl). Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut i wneud hyn yn adran riportio ein gwefan. Os ydych eisoes wedi riportio i’r cyfryngau cymdeithasol, ac y byddech yn hoffi i’r canlyniad gael ei adolygu gennym ni, gallwch gyflwyno adroddiad drwy ein dewin riportio.
Beth ddylwn i ei gynnwys yn fy adroddiad?
Wrth wneud adroddiad i Riportio Cynnwys Niweidiol byddwch yn cael eich cyfeirio at ein dewin riportio. Er mwyn i ni allu eich helpu yn gyflym ac yn effeithlon, rhowch gymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl yn adran ‘gwybodaeth ategol’ y dewin. Gallai hyn gynnwys manylion megis natur y niwed, at bwy y mae wedi’i gyfeirio, pwy yw’r troseddwr, a ydych yn adnabod y troseddwr, pryd y gwnaethoch chi gyflwyno eich adroddiad i’r cyfryngau cymdeithasol, beth oedd y canlyniad, a manylion eraill am y ‘darlun mwy’ (e.e. a yw’r niwed ar-lein hwn yn rhan o batrwm ehangach o aflonyddu neu gam-drin). Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn darparu URL ar gyfer y cynnwys niweidiol ac yn lanlwytho’r ymateb rydych wedi’i dderbyn gan y cyfryngau cymdeithasol (sgrinlun os yw’n bosibl).
Pryd ddylwn i fynd at yr heddlu?
Yn Riportio Cynnwys Niweidiol rydym yn ymdrin â niwed ar-lein o bob math, a gallai ambell niwed gael ei ystyried yn anghyfreithlon. Os ydych yn cael eich bygwth ar-lein, neu os oes rhywun yn aflonyddu arnoch ar-lein, neu’n eich blacmelio ar-lein, rydym yn argymell eich bod yn riportio’r mater i’r heddlu. Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod mewn perygl uniongyrchol, cysylltwch â’r heddlu ar eu rhif ffôn argyfwng - 999. Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys rhestr o’r cyfreithiau perthnasol, i’w gweld ar ein tudalen Pryd ddylwn i fynd at yr Heddlu.
Beth yw canllawiau cymunedol?
Mae miliynau o unigolion yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â ffrindiau a theulu a rhannu profiadau. Er mwyn sicrhau bod y cyfryngau cymdeithasol yn parhau’n amgylchedd diogel a pharchus i bawb, mae gan y rhan fwyaf o’r platfformau cyfryngau cymdeithasol ganllawiau cymunedol. Set o reolau yw’r rhain sy’n amlinellu beth a ddisgwylir gennych fel defnyddiwr y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys sut y dylech drin defnyddwyr eraill, pa ymddygiad sy’n cael ei oddef, a pha ymddygiad sydd ddim yn cael ei oddef. Mae Riportio Cynnwys Niweidiol yn darparu cyngor a chymorth ynglŷn â chynnwys ac ymddygiad sy’n mynd yn groes i ganllawiau cymunedol platfformau cyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml.
Nid yw Riportio Cynnwys Niweidiol wedi uwchgyfeirio fy adroddiad.
Mae nifer o resymau pam y gallai eich adroddiad fod heb gael ei uwchgyfeirio. Nid yw Riportio Cynnwys Niweidiol yn gallu uwchgyfeirio adroddiadau i’r cyfryngau cymdeithasol mewn achosion lle rydym yn cytuno â phenderfyniad y platfform i beidio â thynnu’r cynnwys i lawr. Rydym hefyd yn methu ag uwchgyfeirio adroddiadau nad ydynt yn ein barn ni’n ymwneud â’r pwnc (e.e. lle mae’r adroddiad yn ymwneud â niwed all-lein yn hytrach na niwed ar-lein) neu pan fydd yr adroddiad yn ymwneud â niwed anghyfreithlon a bod dull mwy priodol o ddelio gyda’r mater (e.e. cysylltu â’r heddlu). Rydym hefyd yn methu â helpu gydag adroddiadau am niwed ar-lein sydd y tu allan i gylch gwaith y prosiect (e.e. sbam, analluogrwydd ac yn y blaen).
Yn unrhyw rai o’r achosion uchod, byddwn bob amser yn egluro pam nad ydym yn gallu eich helpu, a byddwn yn eich cyfeirio at ffynonellau cymorth mwy priodol.
Os byddwch yn anghytuno â’n penderfyniad oherwydd eich bod yn teimlo bod eich adroddiad wedi cael ei gam-ddeall, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno adroddiad arall yn cynnwys rhagor o wybodaeth a/neu dystiolaeth.
Rwyf wedi cael fy nghyhuddo o bostio cynnwys niweidiol.
Mae gan safleoedd rhwydweithio cymdeithasol ganllawiau cymunedol er mwyn atal niwed rhag digwydd ar eu platfformau (gweler ‘beth yw canllawiau cymunedol?’). Os bydd rhywun yn gwneud adroddiad am eich ymddygiad neu gynnwys ar safle rhwydweithio cymdeithasol, ac y bernir eich bod wedi torri’r canllawiau cymunedol, mae’n bosibl y bydd rhai o nodweddion eich cyfrif yn cael eu blocio neu eu hatal dros dro. Rydym yn sylweddoli bod hyn yn gallu bod yn rhwystredig iawn, ond fel arfer ni allwn helpu â’r broblem hon.
Yn aml nid yw defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol yn bwriadu achosi niwed. Yn yr achosion hyn, rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo â chanllawiau cymunedol y platfform er mwyn sicrhau nad oes camddealltwriaeth arall yn digwydd.
Os ydych yn teimlo bod rhywun wedi gwneud adroddiad amdanoch er mwyn eich targedu’n annheg (e.e. fel rhan o ymgyrch aflonyddu), a’ch bod wedi dwyn y pryderon hyn i sylw’r platfform cyfryngau cymdeithasol, ond yn aflwyddiannus, yna mae’n bosibl y gallwn eich helpu. Cyflwynwch adroddiad i ni gan ddefnyddio ein dewin riportio, a gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cymaint o fanylion ag sy’n bosibl.
Cynnwys niweidiol ar lwyfannau eraill.
Os nad ydych yn gallu gweld y platfform lle mae’r cynnwys niweidiol wedi’i leoli ar ein tudalen riportio, gallai hyn fod oherwydd nad oes gennym bartneriaeth â’r gwasanaeth hwn eto. Gallai hefyd fod oherwydd bod materion eraill yn ymwneud â riportio i blatfformau penodol. Er hyn, os ydych wedi darganfod cynnwys niweidiol ar blatfform ar wahân i’r rhai a restrir ar y dudalen riportio, gallwch riportio drwy’r ddolen arall ar ein dewin riportio.
Am faint o amser y bydd yn rhaid i mi aros ar ôl cyflwyno adroddiad nes byddaf yn clywed gennych?
Rydym yn ceisio ymateb i adroddiadau cyn pen 72 o oriau gwaith.
Beth ddylwn i ei wneud os nad ydw i’n fodlon â’ch ymateb?
Os byddwn yn methu ag uwchgyfeirio adroddiad i sylw’r cyfryngau cymdeithasol ar eich rhan, byddwn bob amser yn egluro pam ac yn eich cyfeirio at ffynonellau cymorth mwy priodol. Os byddwch yn anghytuno â’n penderfyniad oherwydd eich bod yn teimlo bod eich adroddiad wedi cael ei gam-ddeall, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno adroddiad arall yn cynnwys rhagor o wybodaeth a/neu dystiolaeth.
Os byddwch yn dal yn anfodlon, gallwch gyflwyno eich adborth i ni drwy ein harolwg bodlonrwydd, sydd i’w weld ynghlwm wrth bob cyfathrebiad gennym.
I ble gallaf i anfon sylwadau ac adborth?
Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau ac adborth gan ddefnyddwyr ein gwasanaeth. Mae arolwg bodlonrwydd i’w weld ynghlwm wrth bob cyfathrebiad gennym, a gallwch ei ddefnyddio i rannu eich profiadau o ddefnyddio Riportio Cynnwys Niweidiol Ar-lein.
Rwy’n weithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Mae Riportio Cynnwys Niweidiol yn ganolfan riportio genedlaethol. Cafodd ei chynllunio er mwyn helpu pawb i riportio cynnwys niweidiol ar-lein.
Os ydych yn aelod o’r gweithlu plant, efallai y byddai’n werth i chi hefyd gysylltu â’r Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol (POSH). Mae hon yn un o’n chwaer linellau cymorth, ac rydym yn gweithio mewn cysylltiad agos â hi. Gall y rhai sy’n ateb y ffôn gynnig cyngor mwy penodol i aelodau o’r gweithlu plant gan fod ganddynt ddealltwriaeth ddyfnach o’r materion diogelwch ar-lein ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r math yma o waith.
Ffôn: 0344 381 4772 Ebost: helpline@saferinternet.org.uk
Rydw i dan 18 oed.
Gall Riportio Cynnwys Niweidiol helpu pob oedolyn a pherson ifanc rhwng 13 a 18 oed i riportio cynnwys niweidiol ar-lein. Dan y rheoliadau GDPR newydd ni allwn dderbyn gwybodaeth gan blant dan 13 oed. Os ydych dan 13 oed a bod arnoch angen help i dynnu cynnwys niweidiol oddi ar y we, gofynnwch i’ch rhiant neu warcheidwad lenwi’r dewin riportio ar eich rhan.
Rydw i’n bryderus am ddefnydd fy mhlentyn o’r cyfryngau cymdeithasol.
Os oes gennych bryder ynglŷn â chynnwys penodol ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol eich plentyn, gallwch ei riportio yn uniongyrchol i’r cyfryngau cymdeithasol. I gael cyngor ynglŷn â sut i wneud hyn, edrychwch ar yr adran riportio ar ein gwefan. Os ydych wedi riportio i’r cyfryngau cymdeithasol yn barod, ond y byddech yn hoffi i’r canlyniad gael ei adolygu gennym ni, gallwch gyflwyno adroddiad Riportio Cynnwys Niweidiol drwy ein dewin riportio.
Dan y rheoliadau GDPR newydd, ni allwn dderbyn gwybodaeth gan blant dan 13 oed. Os yw eich plentyn dan 13 oed bydd angen i chi gyflwyno adroddiad ar ei ran. Os yw eich plentyn dros 13 oed, rydym yn argymell ei fod yn cyflwyno ei adroddiad ei hun.
Os oes gennych bryderon mwy cyffredinol ynglŷn â defnydd eich plentyn o’r cyfryngau cymdeithasol (e.e. cadw’n ddiogel, monitro ymddygiad) gallwch ddod o hyd i gymorth ac awgrymiadau yn ein hadran cyngor i rieni.
Mae rhywun yn targedu fy ngweithle a/neu aelodau o’r staff.
Gall Riportio Cynnwys Niweidiol helpu â hyn. Rydym yn ymdrin yn aml ag adroddiadau yn ymwneud â bygythiadau neu aflonyddu sy’n digwydd yn y gweithle, ynghyd ag achosion proffesiynol o ffugio bod yn rhywun arall a thorri rheolau eiddo deallusol. Gall Riportio Cynnwys Niweidiol gynnig cyngor a chymorth yn ymwneud â phob un o’r materion hyn.
Mae rhywun yn cymryd arno ei fod yn fi ar-lein.
Gallwn helpu â hyn. Mae hacio cyfrifon neu ffugio bod yn rhywun arall yn un o’r materion mwyaf cyffredin rydym yn ymdrin â nhw. Gall Riportio Cynnwys Niweidiol gynnig cyngor a chymorth os oes rhywun yn cymryd arno ei fod yn chi ar-lein.
Rwy’n un o swyddogion yr heddlu.
Os ydych yn un o swyddogion yr heddlu sy’n ymdrin â chynnwys niweidiol fel rhan o ymchwiliad troseddol, efallai eich bod yn meddwl sut y gallwn ni helpu. Mae pob ymchwiliad troseddol yn unigryw. Bydd adegau pan fyddwn yn gallu helpu, ac adegau pan na fyddwn yn gallu helpu. Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno adroddiad i ni, a byddwn yn asesu pob adroddiad unigol. Os na fyddwn yn gallu eich helpu, byddwn bob amser yn egluro pam ac yn eich cyfeirio at ffynonellau cymorth mwy priodol.
Rwyf wedi dioddef trosedd.
Yn anffodus, ni allwn helpu i dynnu cynnwys niweidiol sy’n gysylltiedig ag ymchwiliadau troseddol oddi ar y we. Mae hyn er mwyn sicrhau nad oes dim yn effeithio ar yr ymchwiliad. Os oes gennych bryderon ynglŷn â chynnwys niweidiol sy’n gysylltiedig â’ch ymchwiliad, siaradwch ag un o swyddogion yr heddlu neu’r gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr.