Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE)

  1. Cynnwys Niweidiol Arall
  2. Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE)

Mae rhai pobl yn ffurfio perthnasoedd (ar-lein neu all-lein) gyda phobl ifanc oherwydd bod arnynt eisiau eu defnyddio ar gyfer rhyw neu i wneud pethau rhywiol gyda nhw. Er enghraifft, gallai person ifanc gael ei berswadio neu ei orfodi i rannu delweddau noeth ar-lein neu i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol.

Mae ar bobl sy’n gwneud hyn eisiau ennill ymddiriedaeth er mwyn cael pŵer dros bobl ifanc. Mae’n bosibl y byddant yn gwneud ac yn dweud pethau i wneud i’r person ifanc feddwl eu bod yn ffrind neu gariad. Efallai y byddant yn cynnig arian neu anrhegion i roi pwysau ar y person ifanc i wneud pethau. Efallai hefyd y byddant yn defnyddio bygythiadau a/neu’n ceisio gwneud i’r person ifanc deimlo’n wael amdano’i hun, neu deimlo cywilydd am rywbeth nad oedd bai arno ef neu hi amdano. 

Mewn rhai achosion, efallai y byddant yn ceisio blacmelio’r person ifanc drwy ddweud y byddant yn rhannu lluniau noeth, fideos neu rywbeth arall a fydd yn codi cywilydd ar y person ifanc gyda’i ffrindiau a’i deulu os na fydd yn gwneud beth maen nhw’n ei ddweud.

Camfanteisio’n rhywiol ar blant yw hyn, ac mae’n drosedd.

Darllenwch ddiffiniad y llywodraeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blant.

Riportio

Os yw person ifanc yn poeni bod rhywun yn camfanteisio’n rhywiol arno ef neu hi (neu rywun arall dan 18 oed), gall gael help drwy riportio ar-lein i ganolfan reoli Atal Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP).

Os ydych yn 18 oed neu hŷn a bod gennych bryder ynglŷn â chamfanteisio’n rhywiol ar blant dylech riportio hyn i’r heddlu.

Os ydych chi neu berson ifanc yn wynebu risg uniongyrchol o niwed ffoniwch 999.

Darganfyddwch isod sut i riportio camfanteisio’n rhywiol ar blant i’r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml:

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below