The Helpline will be closed over the bank holiday weekend from 4 pm on Thursday, 28th March and we will reopen on Tuesday 2nd April 2024. Our chatbot, Reiya, will be available on our website to support navigation of the website in the meantime. All case enquiries will be responded to on reopening
Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Camddefnyddio Delweddau Personol

(A elwir hefyd yn Bornograffi Dial)

  1. Cynnwys Niweidiol Arall
  2. Camddefnyddio Delweddau Personol

Mae Camddefnyddio Delweddau Personol, a elwir hefyd yn Bornograffi Dial, yn erbyn y gyfraith yn y DU. Mae’n ymwneud â rhannu cynnwys personol heb ganiatâd unigolyn er mwyn achosi gofid iddo. Mae’r gyfraith yn diffinio 'personol' fel bod yn gwbl noeth neu’n agored rywiol, ac yn rhywbeth nad yw’n cael ei weld yn gyhoeddus fel arfer. Yn aml iawn mae’r dioddefwyr yn cael eu targedu’n faleisus, a gall cynnwys fod yn gysylltiedig â’u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol neu fanylion adnabod personol. Weithiau gall gael ei anfon at bobl y maen nhw’n eu hadnabod, er enghraifft teulu neu gydweithwyr. Gall y dioddefwyr fod yn ddynion neu’n ferched, 18 oed a hŷn. NID oes angen i ddioddefwyr fod wedi bod mewn perthynas â’r troseddwr i’r drosedd gael ei hystyried yn ‘bornograffi dial’, ac yn aml iawn nid yw’r dioddefwyr hyd yn oed yn gwybod bod delweddau neu fideos wedi cael eu cymryd yn y lle cyntaf. 

Os yw hyn wedi digwydd i chi, gall siarad â sefydliad fel Llinell Gymorth Pornograffi Dial helpu i roi rhagor o gyngor a chymorth i chi. Ffoniwch 0345 6000 459 o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am - 4pm, neu anfonwch ebost i help@revengepornhelpline.org.uk

Riportio Camddefnyddio Delweddau Personol

Darganfyddwch isod sut i riportio camddefnyddio delweddau personol i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml:

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below