Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Blacmel Rhywiol

  1. Cynnwys Niweidiol Arall
  2. Blacmelio Rhywiol

Mae blacmel rhywiol, sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘flacmel gwe-gamera’, yn digwydd pan fydd unigolion yn cyfarfod drwy’r cyfryngau cymdeithasol neu ar wefannau caru ac yn ffurfio perthynas drwy sgwrsio. Yn aml iawn mae’r dyn neu’r ddynes sy’n blacmelio yn ymddangos fel unigolyn y byddai rhywun fel arfer yn ei weld yn ddeniadol, ond ar ôl ennill ymddiriedaeth y dioddefwr, bydd yn fuan iawn yn ei berswadio i anfon delweddau neu fideos personol o weithredoedd rhywiol drwy we-gamera.

Mae’r cynnwys neu’r wybodaeth rywiol yn cael ei recordio heb yn wybod i’r dioddefwr ac yna’n cael ei defnyddio i’w flacmelio am arian, ffafrau rhywiol neu ragor o gynnwys rhywiol. Gall blacmel rhywiol gael ei gyflawni gan unigolyn, neu gan gangiau troseddol rhyngwladol a chyfundrefnol.

Beth i’w wneud?

Os ydych wedi dioddef blacmel rhywiol, rydym yn argymell eich bod yn dilyn y camau a ganlyn:

1. Dweud wrth rywun rydych yn ymddiried ynddo

Dydych chi ddim wedi gwneud dim byd o’i le. Gall siarad â sefydliad fel Llinell Gymorth Pornograffi Dial eich helpu i gael rhagor o gyngor a chefnogaeth. Ffoniwch 0345 6000 459 neu anfonwch ebost i help@revengepornhelpline.org.uk

2. Peidiwch â rhoi amser nac arian iddyn nhw, a pheidiwch â negodi

Mae arnyn nhw eisiau cysylltu â chi er mwyn iddyn nhw allu eich bygwth a rhoi pwysau arnoch chi. Cymerwch sgrinluniau fel tystiolaeth. Blociwch nhw a pheidiwch ag ymateb iddyn nhw. Mae’r swm y byddan nhw’n gofyn amdano wedi’i fwriadu i fod yn ddigon o swm i’ch annog i dalu. Ond fydd y swm byth yn ddigon, a byddant yn dod yn ôl ac yn mynnu rhagor o arian.

3. Casglwch dystiolaeth a stopiwch bob cyswllt

Rydym yn annog dioddefwyr i gadw pob neges fel tystiolaeth. Dylai dioddefwyr hefyd riportio a blocio proffil cyfryngau cymdeithasol y troseddwyr i’r platfform y cawsant eu bygwth arno, oherwydd mae blacmelio yn debygol o fod yn groes i safonau cymunedol y platfform.

4. Dywedwch wrth yr heddlu

Mae’r math yma o drosedd ar gynnydd, a dyma pam y mae Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) y DU yn awyddus i chi ei riportio. Mae angen i’r NCA ddatblygu gwybodaeth am y math yma o droseddau. Er bod y symiau y gofynnir amdanynt yn gymharol fach (£200 - £1600) mae nifer ac amlder y troseddau hyn yn debygol o wneud hwn yn ddiwydiant rhyngwladol sy’n werth miliynau o ddoleri. Mae ymchwiliadau’r NCA yn canfod dioddefwyr ym mhob cwr o’r byd. Gallwch gael mwy o wybodaeth am flacmel rhywiol (blacmel gwe-gamera), gan gynnwys beth i’w wneud os ydych yn ddioddefwr, ar wefan yr NCA.

5. Os ydych yn teimlo cywilydd, peidiwch â gadael i hynny eich atal rhag gofyn am help

Mae’ heddlu’r DU wedi cysylltu pum achos o flacmel ar-lein â hunanladdiad. Felly mae’n bwysig eich bod yn gofyn am help. Dydych chi ddim wedi gwneud dim byd o’i le. Nid chi yw’r unig un y mae hyn wedi digwydd iddo. Mae’r NCA wedi ymdrin â thros 1500 o achosion o flacmel rhywiol, ac mae galwedigaethau’r dioddefwyr yn cynnwys swyddogion yr heddlu, dynion tân, aelodau o’r fyddin (swyddogion milwrol a swyddogion di-gomisiwn), penaethiaid awdurdodau lleol, pobl o fyd chwaraeon, athrawon, hyfforddwyr ieuenctid a phobl enwog.

Riportio Blacmel Rhywiol

Darganfyddwch isod sut i riportio blacmel rhywiol i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml:

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below