Helpu pawb i riportio cynnwys niweidiol ar-lein
Bygythiadau
Gallai hyn fod yn fygythiad i niweidio rhywun, i “owtio” rhywun am rywbeth neu i’w flacmelio (e.e. rhaid i ti wneud beth rydw i’n ei ddweud neu byddaf yn rhannu’r llun yna). Gellir defnyddio’r bygythiadau i wneud i rywun wneud rhywbeth nad oes arno eisiau ei wneud.
Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei helpu, yn cael eich bygwth ar-lein:
Siaradwch ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo. Gall eich helpu i wneud cynllun i gadw’n ddiogel.
Os yw’r bygythiad yn ymwneud â rhywbeth anghyfreithlon – e.e. lluniau noeth o blentyn dan 18 oed, dylech riportio hyn i’r heddlu. Gallwch wneud hyn eich hun, neu gofynnwch i oedolyn rydych yn ymddiried ynddo eich helpu. Cofiwch, peidiwch byth â thynnu sgrinlun na rhannu copi o ddelwedd noeth o blentyn dan 18 oed eich hun, gan fod hyn yn anghyfreithlon.
Os nad yw’r bygythiad yn ymwneud â rhywbeth anghyfreithlon:
- Cadwch dystiolaeth (fel sgrinlun),
- Riportiwch y bygythiad i’r platfform (mae manylion ynglŷn â sut i wneud hynny i’w gweld yma)
- Blociwch y cyfrif
Os yw bygythiad yn eich rhoi chi neu rywun arall mewn perygl, e.e. os bydd rhywun yn dweud ei fod yn mynd i ymosod ar rywun neu anafu rhywun, dylech riportio hyn fel mater o frys i’r heddlu ar 999.
Siaradwch ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo ynglŷn â hyn, ond os ydych yn cael amser caled a bod arnoch eisiau siarad â rhywun arall hefyd, gall Childline a The Mix helpu hefyd. Os ydych yng Nghymru, gallwch siarad â Meic.
Ffugio bod yn rhywun arall
Mae hyn yn digwydd pan fydd rhywun yn cymryd arno ei fod yn rhywun arall ar-lein, er mwyn twyllo pobl.
Os oes rhywun yn ffugio bod yn chi ar-lein, neu’n ffugio bod yn rhywun rydych yn ei helpu:
Siaradwch ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo. Gall eich helpu i feddwl beth i’w wneud nesaf.
- Cadwch dystiolaeth (fel sgrinlun),
- Riportiwch y digwyddiad i’r platfform (mae manylion ynglŷn â sut i wneud hyn i’w gweld yma)
- Blociwch y cyfrif
Os oes rhywun yn ffugio bod yn chi neu rywun arall, efallai y bydd arnoch eisiau cysylltu â’r heddlu i ofyn am ragor o gyngor, oherwydd gallai hyn fod yn anghyfreithlon yn y DU.
Siaradwch ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo ynglŷn â hyn, ond os ydych yn cael amser caled a bod arnoch eisiau siarad â rhywun arall hefyd, gall Childline a The Mix helpu hefyd. Os ydych yng Nghymru, gallwch siarad â Meic.
Bwlio neu Aflonyddu
Mae hyn yn digwydd pan fydd iaith niweidiol yn cael ei defnyddio dro ar ôl tro i dargedu person neu grŵp o bobl, ac mae’n cynnwys trolio, taenu sïon ac ynysu pobl oddi wrth eu ffrindiau.
Yn achos aflonyddu, mae’r ymddygiad yn cael ei ailadrodd ac mae wedi’i fwriadu er mwyn achosi niwed.
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei helpu yn cael ei fwlio ar-lein, neu os oes rhywun yn aflonyddu arnoch:
Siaradwch ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo. Gall eich helpu i feddwl beth i’w wneud nesaf.
- Cadwch dystiolaeth (fel sgrinlun),
- Riportiwch y digwyddiad i’r platfform (mae manylion ynglŷn â sut i wneud hyn i’w gweld yma)
- Blociwch y cyfrif
Os oes rhywun yn eich bwlio neu’n aflonyddu arnoch chi neu rywun arall, efallai y bydd arnoch eisiau cysylltu â’r heddlu i ofyn am ragor o gyngor, oherwydd gallai hyn fod yn anghyfreithlon yn y DU.
Siaradwch ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo ynglŷn â hyn, ond os ydych yn cael amser caled a bod arnoch eisiau siarad â rhywun arall hefyd, gall Childline a The Mix helpu hefyd. Os ydych yng Nghymru, gallwch siarad â Meic.
Cynnwys am Hunan-niwed neu Hunanladdiad
Nid yw’r rhan fwyaf o’r platfformau’n caniatáu postiadau sy’n annog, yn cyfarwyddo neu’n hybu hunan-niwed neu hunanladdiad.
Os ydych chi neu rywun arall wedi gweld postiadau am hunan-niwed neu hunanladdiad ar-lein:
- Siaradwch ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo. Gall eich helpu i wneud cynllun er mwyn delio gyda hyn.
- Riportiwch y cynnwys i’r platfform (mae manylion ynglŷn â sut i wneud hyn i’w gweld yma)
- Os yw rhywun rydych yn ei adnabod wedi ei bostio, neu’n ei rannu, siaradwch ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo. Gall eich helpu chi yn ogystal â’r person sydd wedi ei bostio/ rhannu.
Mae pobl ar gael i helpu. Mae gan Mind a Papyrus linellau cymorth i gefnogi pobl ifanc sy’n teimlo fel pe baent eisiau niweidio eu hunain.
Os oes arnoch chi neu rywun arall angen help ar frys, ffoniwch 999 a gofyn am ambiwlans.
Siaradwch ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo ynglŷn â hyn, ond os ydych yn cael amser caled a bod arnoch eisiau siarad â rhywun arall hefyd, gall Childline a The Mix helpu hefyd. Os ydych yng Nghymru, gallwch siarad â Meic.
Cam-drin Ar-lein
Mae hyn yn cynnwys pob gweithgaredd sydd wedi’i fwriadu er mwyn achosi niwed ar rwydwaith cymdeithasol, gwefan, platfform chwarae gemau neu ap. Rydym yn ystyried cam-drin fel un achos (e.e. sylw annymunol gan ddieithryn neu un achos o drolio). Pan fydd yr un achos hwn yn cael ei ailadrodd mae’n troi’n fwlio neu aflonyddu.
Os yw’r cam-drin yn cael ei dargedu tuag at rywun oherwydd nodwedd warchodedig (h.y. oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth) mae’n drosedd casineb. Mae hynny’n anghyfreithlon yn y DU a dylid ei riportio i True Vision.
Gallai cam-drin ar-lein fod yn rhywbeth sydd wedi digwydd i chi, neu’n rhywbeth rydych wedi ei weld. Gall fod yn eiriol neu’n seiliedig ar ddelweddau.
Os ydych chi neu rywun arall wedi cael eich cam-drin ar-lein:
Siaradwch ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo. Gall eich helpu i feddwl beth i’w wneud nesaf.
- Cadwch dystiolaeth (fel sgrinlun),
- Riportiwch y digwyddiad i’r platfform (mae manylion ynglŷn â sut i wneud hyn i’w gweld yma)
- Blociwch y cyfrif
Os ydych wedi gweld cam-drin ar-lein, efallai y bydd arnoch eisiau cysylltu â’r heddlu i ofyn am ragor o gyngor, oherwydd gallai hyn fod yn anghyfreithlon yn y DU.
Siaradwch ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo ynglŷn â hyn, ond os ydych yn cael amser caled a bod arnoch eisiau siarad â rhywun arall, gall Childline a The Mix helpu hefyd. Os ydych yng Nghymru, gallwch siarad â Meic.
Cynnwys Treisgar
Gallai hyn gynnwys fideos neu gartwnau sy’n dangos trais, gyda phobl neu anifeiliaid yn cael eu brifo. Nid yw’r rhan fwyaf o blatfformau’n caniatáu cynnwys fel hyn.
Os ydych chi neu rywun arall wedi gweld cynnwys treisgar ar-lein,
- Siaradwch gydag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo. Gall eich helpu i wneud cynllun i ddelio gyda hyn.
- Riportiwch y digwyddiad i’r platfform (mae manylion ynglŷn â sut i wneud hyn i’w gweld yma)
- Blociwch y cyfrif
Os yw’r cynnwys yn cefnogi terfysgaeth, riportiwch ef i Action Counters Terrorism
Os ydych wedi cael eich effeithio gan rywbeth rydych wedi’i weld a bod arnoch eisiau siarad â rhywun arall ynglŷn â hyn, gall Childline a The Mix helpu hefyd. Os ydych yng Nghymru, gallwch siarad â Meic.
Cyfathrebiadau Rhywiol
Mae hyn yn digwydd pan fydd rhywun yn anfon sylw, llun neu fideo rhywiol at berson ifanc, p’un a yw’r person ifanc eisiau ei dderbyn ai peidio.
Os yw hyn wedi digwydd i chi, neu i rywun arall, dywedwch wrth oedolyn rydych yn ymddiried ynddo.
Gallwch riportio cyfathrebiadau rhywiol digroeso i CEOP. Mae’n anghyfreithlon yn y DU i oedolyn anfon cyfathrebiadau rhywiol at berson ifanc dan 16 oed.
Mae hefyd yn anghyfreithlon i rywun roi pwysau ar berson ifanc neu ei dwyllo i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol ar-lein (e.e. anfon llun noeth).
Os oes risg o niwed uniongyrchol dylech ffonio’r heddlu ar 999.
Cliciwch yma i ddarganfod sut i riportio cyfathrebiadau rhywiol ar amryw o blatfformau gwahanol.
Siaradwch ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo ynglŷn â hyn, ond os ydych yn cael amser caled a bod arnoch eisiau siarad â rhywun arall, gall Childline a The Mix helpu hefyd. Os ydych yng Nghymru, gallwch siarad â Meic.
Cynnwys Pornograffig
Mae’r rhan fwyaf o’r pornograffi sy’n cynnwys deunydd noeth neu rywiol addas i oedolion yn gyfreithlon yn y DU. Er bod rhai safleoedd yn caniatáu’r cynnwys hwn, ni fydd y rhan fwyaf o’r safleoedd sydd â defnyddwyr dan 18 oed yn ei ganiatáu. Mae’n anghyfreithlon i rannu pornograffi neu i orfodi rhywun dan 18 oed i wylio pornograffi. Os yw hyn wedi digwydd dylai gael ei riportio i’r heddlu.
Os ydych chi neu rywun arall wedi gweld cynnwys pornograffig ar safle rhwydweithio cymdeithasol (e.e. Facebook, Instagram, Twitter, Snapchat ac ati):
- Siaradwch ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo. Gall eich helpu i wneud cynllun i ddelio gyda hyn.
- Riportiwch y digwyddiad i’r platfform (mae manylion ynglŷn â sut i wneud hyn i’w gweld yma)
- Blociwch y cyfrif
Mae lluniau neu ddelweddau rhywiol o bobl ifanc dan 18 oed yn cael eu galw’n ddelweddau cam-drin plant, ac maen nhw’n anghyfreithlon. Os ydych yn meddwl bod llun neu fideo yn dangos rhywun dan 18 oed, riportiwch ef i’r Internet Watch Foundation. Ni ddylech byth wneud copïau (e.e. sgrinluniau) na rhannu delwedd neu fideo rhywiol o blentyn dan 18 oed. Mae hyn yn anghyfreithlon.
Os ydych wedi cael eich effeithio gan rywbeth rydych wedi’i weld a bod arnoch eisiau siarad â rhywun arall am hyn, gall Childline a The Mix helpu hefyd. Os ydych yng Nghymru, gallwch siarad â Meic.
Er bod cynnwys Cymraeg a Saesneg ar gael ar y safle hwn, dim ond yn Saesneg gallwn ni gynnig cymorth a chyfathrebu â chi. Mae’r dolenni ar y safle yma yn cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth perthnasol sydd ar gael yn Saesneg yn bennaf. Pan fo’n berthnasol, mae rhywfaint o’r cynnwys o’r safleoedd hyn wedi cael ei gyfieithu i’r Gymraeg i gefnogi’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan y wefan Riportio Cynnwys Niweidiol. Mae’r safle hwn yn cael ei weithredu gan SWGfL ar ran Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU. Mae’r cynnwys wedi cael ei gyfieithu gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.