Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Gwybodaeth am fideos ar YouTube Kids

Fideos ar YouTube Kids

Rydym wedi adeiladu’r ap YouTube Kids i fod yn lle addas i deuluoedd lle gall plant ddefnyddio’u dychymyg a bod yn chwilfrydig. Pennir y fideos sydd ar gael yn yr ap gan gyfuniad o hidlo algorithmig, mewnbwn defnyddiwr ac adolygiadau gan bobl. Gellir darganfod fideos yn YouTube Kids mewn tair ffordd. Mae rhai fideos yn cael eu dewis ymlaen llaw, tra mae eraill yn cael eu darganfod gan eich plentyn drwy chwilio. Gall yr ap hefyd argymell fideos i’ch plentyn ar sail beth mae wedi bod yn ei wylio. Mae’r cynnwys sydd wedi’i ddewis ymlaen llaw yn mynd drwy lefel ychwanegol o reoli ansawdd, drwy rywfaint o adolygiadau gan bobl. Dewisir y canlyniadau Chwilio a fideos sy’n cael eu hargymell drwy’r algorithm, ac nid ar sail adolygiadau gan bobl. Er bod ein system wedi cael ei threialu a’i phrofi’n ofalus, nid oes yr un algorithm yn berffaith, a hyd yn oed pe bai gennym algorithm perffaith ni allai guro barn rhieni. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl y gallai eich plentyn ddod o hyd i gynnwys yn yr ap na fyddech o bosibl eisiau iddo ef neu hi ei wylio. Os bydd hyn yn digwydd, gallwch hysbysu YouTube drwy fflagio’r fideo. Rydym yn defnyddio’r fflagiau hyn i wella’r ap. 

Er mwyn cael profiad mwy cyfyngedig, gallwch ddiffodd chwilio, fel bod eich plentyn ddim ond yn gallu cael mynediad at gynnwys sydd wedi’i ddewis ymlaen llaw. Mae diffodd chwilio yn lleihau’r siawns y bydd eich plentyn yn dod o hyd i gynnwys nad ydych eisiau iddo ei wylio.

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below