Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Safbwynt Instagram ar fygythiadau credadwy

Parchu aelodau eraill o’r gymuned Instagram.

Mae arnom eisiau meithrin cymuned gadarnhaol, amrywiol. Rydym yn tynnu i lawr unrhyw gynnwys sydd â bygythiadau credadwy neu iaith gasineb, cynnwys sy’n targedu unigolion preifat er mwyn eu bychanu neu godi cywilydd arnynt, gwybodaeth bersonol a fwriadwyd er mwyn blacmelio neu aflonyddu ar rywun, a negeseuon digroeso mynych. At ei gilydd, rydym yn caniatáu sgwrs gryfach am bobl sydd yn y newyddion, neu bobl sydd â chynulleidfa gyhoeddus fawr oherwydd eu proffesiwn neu’r gweithgareddau o’u dewis.

Nid yw bygythiadau difrifol o niwed i’r cyhoedd a diogelwch personol yn cael eu caniatáu. Mae hyn yn cynnwys bygythiadau penodol o niwed corfforol yn ogystal â bygythiadau o ladrata, fandaliaeth, a niwed ariannol arall. Rydym yn adolygu adroddiadau am fygythiadau’n ofalus ac yn ystyried llawer o bethau wrth benderfynu a yw bygythiad yn gredadwy.

Cliciwch yma i wneud adroddiad

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below