Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Gwelir isod wybodaeth a fydd yn eich helpu i gyflwyno adroddiad

Gwybodaeth am riportio

Os oes arnoch eisiau sicrhau nad yw llun, dolen proffil, neu dudalen we yn ymddangos yng nghanlyniadau Google Search, fel arfer bydd angen i chi ofyn i berchennog y wefan (y gwefeistr) dynnu’r wybodaeth i lawr.

Hyd yn oed os yw Google yn dileu’r safle neu’r ddelwedd o’r canlyniadau chwilio, mae’r dudalen we yn bodoli o hyd a gellir ei gweld drwy’r URL i’r safle, os yw’n cael ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, neu drwy beiriannau chwilio eraill. Dyma pam mai’r peth gorau i chi ei wneud yw cysylltu â’r gwefeistr a gofyn iddo dynnu’r dudalen i lawr yn ei chyfanrwydd.

Os bydd llun neu wybodaeth yn dod i’r golwg yng nghanlyniadau chwilio Google, y cyfan y mae’n ei olygu yw bod yr wybodaeth yn bodoli ar y Rhyngrwyd. Nid yw’n golygu bod Google yn ei chymeradwyo.

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below