Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Safbwynt Facebook o ran trais credadwy

Ein nod yw atal niwed yn y byd go iawn a allai fod yn gysylltiedig â chynnwys ar Facebook. Rydyn ni’n deall bod pobl yn arfer mynegi dirmyg neu anghytundeb drwy fygwth neu alw am drais mewn ffyrdd cellweirus heb fod yn ddifrifol. Dyna pam rydyn ni’n ceisio ystyried iaith, cyd-destun a manylion er mwyn gwahaniaethu rhwng datganiadau ffwrdd-a-hi a chynnwys sydd gyfystyr â bygythiad credadwy i ddiogelwch y cyhoedd neu ddiogelwch personol. Wrth benderfynu a yw bygythiad yn gredadwy, Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried gwybodaeth ychwanegol hefyd, fel pa mor amlwg yw’r unigolyn yn gyhoeddus a pha mor agored i niwed yw’r unigolyn. Rydyn ni’n tynnu cynnwys, yn analluogi cyfrifon ac yn gweithio gyda swyddogion gorfodi’r gyfraith pan fyddwn yn credu bod risg gwirioneddol o niwed corfforol neu fygythiadau uniongyrchol i ddiogelwch y cyhoedd.

Cliciwch yma i riportio cynnwys difrïol fel trais credadwy yn Uniongyrchol ar Facebook

Yn ôl Dechrau o'r dechrau

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below