Os ydych chi neu'r person rydych chi'n ei helpu mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 999

Delweddau o Gam-drin Plant yn Rhywiol (CSAM)

  1. Cynnwys Niweidiol Arall
  2. Delweddau o gam-drin plant yn rhywiol (CSAM)

Mae Deunydd Cam-drin Plant yn Rhywiol, sy’n cynnwys plant dan 18 oed, yn anghyfreithlon a rhaid ei riportio i’r Internet Watch Foundation (IWF). Bydd yr IWF yn ceisio tynnu’r cynnwys o’r ffynhonnell a rhoi cod unigryw iddo (hash) er mwyn sicrhau nad yw’n cael ei lanlwytho eto.

Mae’r IWF yn gweithio’n rhyngwladol er mwyn gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i bawb. Mae’n helpu plant sy’n cael eu cam-drin yn rhywiol ar hyd a lled y byd drwy ganfod a dileu delweddau a fideos ohonynt yn cael eu cam-drin. Mae’n chwilio am ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol ar-lein ac yn cynnig lle diogel i’r cyhoedd riportio’r math hwn o gynnwys. Yna, ni waeth ym mha ran o’r byd y mae’r deunydd wedi’i roi ar y we, mae’n sicrhau ei fod yn cael ei ddileu.

Mae’r dioddefwr yn dioddef drosodd a throsodd bob tro y mae delwedd neu fideo o blentyn yn cael ei gam-drin yn rhywiol yn cael ei weld. Mae’r IWF yma i stopio hynny.

Riportio Deunydd Cam-drin Plant yn Rhywiol

Darganfyddwch isod sut i riportio Deunydd Cam-drin Plant yn Rhywiol i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml:

  1. Hi there

  2. I'm a chatbot here to support you in finding information and reporting content at a time that works for you

  3. If you want me to help you with your issue, just click below