Meithrin perthynas amhriodol
Mae meithrin perthynas amhriodol yn digwydd pan fydd rhywun yn datblygu cysylltiad emosiynol gyda phlentyn, ac yn ennill ei ymddiriedaeth at ddibenion rhywiol, gan gynnwys cam-drin yn rhywiol, camfanteisio’n rhywiol neu fasnachu mewn plant. Gall hyn ddigwydd ar-lein neu all-lein.
Gall person wneud hyn drwy:
- Gymryd arno ei fod yn rhywun arall
- Prynu anrhegion
- Gweithredu fel mentor
- Seboni/ rhoi sylw i’r plentyn
Riportio
Mae meithrin perthynas amhriodol yn anghyfreithlon, a dylid riportio unrhyw amheuaeth neu ymdrech y gwyddys amdani i feithrin perthynas amhriodol i’r Asiantaeth Atal Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP).
Os yw person ifanc yn wynebu perygl uniongyrchol o niwed ffoniwch 999.
Bydd gan y rhan fwyaf o’r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol cyffredin hefyd lwybrau riportio ar gyfer y math hwn o gynnwys: