cynnwys sy’n peri gofid ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook ac Instagram. Gallai hyn gwmpasu cynnwys sy’n hybu hunan-laddiad, neu bobl yn mynegi meddyliau am hunanladdiad, cynnwys sy’n clodfori anhwylderau bwyta (fel anorecsia neu bwlimia), a phortreadau o hunan-niweidio a hunananafu (er enghraifft pobl yn torri, yn crafu, yn llosgi neu’n brathu eu hunain).
Pan fyddwch yn gweld y math hwn o gynnwys efallai y byddwch yn gofyn cwestiynau fel hyn i chi eich hun: pam y mae bechgyn a merched ifanc yn hunan-niweidio? Sut alla i helpu rhywun sy’n hunan-niweidio neu’n meddwl am ladd ei hun? Neu, sut alla i riportio cynnwys sy’n peri gofid i mi a phobl eraill sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol?
Yn ffodus, mae lleoedd y gallwch droi atynt i gael help a chefnogaeth â’r holl gwestiynau hyn. Nid yw cynnwys am hunan-niweidio neu hunanladdiad yn cael ei oddef ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol a gellir ei riportio’n uniongyrchol i’r platfformau hyn. Mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd cyfryngau cymdeithasol, a phlatfformau ar-lein eraill, hefyd yn cynnwys gwybodaeth i helpu neu gefnogi rhywun sy’n hunan-niweidio, sydd ag anhwylderau bwyta neu sy’n meddwl am gyflawni hunanladdiad.
Cofiwch, os ydych yn cael anhawster â’ch iechyd meddwl, ac os oes arnoch eisiau siarad â rhywun yn annibynnol am hyn, mae’r Samariaid yma i helpu. Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999 i gael help.
Darganfyddwch isod sut i riportio cynnwys am hunan-niwed neu hunanladdiad i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio’n aml: